Heddiw, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ymgynghoriad ar leihau allyriadau carbon a newid i economi carbon isel yng Nghymru.
Mae 'Cyflawni ein Llwybr Carbon Isel at 2030 ’ yn cyflwyno cyfres o ‘syniadau ar gyfer gweithredu’ i leihau nwyon tŷ gwydr, gan gynyddu’r cyfleoedd y bydd economi carbon isel yn eu cynnig.
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i Lywodraeth Cymru leihau allyriadau yng Nghymru o leiaf 80% erbyn 2050, o’u cymharu â lefelau yn 1990, gyda thargedau interim ar gyfer 2020, 2030 a 2040. Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar feysydd allweddol gan gynnwys amaethyddiaeth, diwydiant, pŵer, trafnidiaeth a gwastraff, er mwyn helpu i gyrraedd targed arfaethedig Llywodraeth Cymru o leihau allyriadau 45% yn 2030.
Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi gweld twf mewn nifer o ddiwydiannau mwy gwyrdd newydd, gan gynnwys gweithgynhyrchu cerbydau trydan a’u batrïau, technolegau ynni carbon isel, adeiladau ynni isel a systemau gwresogi ac oeri.
Fodd bynnag, mae cyfran helaeth o ynni Cymru yn dod o danwydd ffosil o hyd a cheir cyfran uchel o ddiwydiant trwm y DU yma. Mae gan lawer o gartrefi waliau solid, gan eu gwneud yn fwy costus i’w hinswleiddio, ac nid oes gan lawer o gartrefi gyswllt â’r grid. Gall natur wledig rhannau mawr o Gymru wneud teithio sy’n ecogyfeillgar yn fwy anodd.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
“Mae Cytundeb Paris yn gosod y cyd-destun ar gyfer mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ond hefyd ar gyfer datgarboneiddio economi’r byd. Bydd gweithredu ar newid yn yr hinsawdd yn arwain at aer a dŵr glanach ac nid yn unig yn gwella ein hiechyd a’n lles, bydd yn codi pobl allan o dlodi tanwydd a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer diwydiannau gwyrdd."
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn agor deialog ar sut y gallwn gydweithio yng Nghymru i fynd i’r afael â’r her hinsawdd sy’n newid.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
“O groesawu dulliau newydd o deithio i weithgynhyrchu technolegau gwyrdd arloesol, mae potensial enfawr i dyfu mewn economi carbon isel. A dyna pam mai hanfod fy Nghynllun Gweithredu ar yr Economi yw helpu busnesau i ddiogelu’u dyfodol, arloesi a defnyddio a chynhyrchu cyn lleied o garbon â phosibl.
Rhaid inni sicrhau bod Cymru’n gallu manteisio ar y newid i gymdeithas carbon isel er mwyn inni allu parhau i gystadlu â gweddill y byd a sicrhau bod manteision economi carbon isel yn cael eu gwireddu mewn cymunedau ledled Cymru.”