Heddiw, mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi amlinellu cyfres o gamau er mwyn gwella mwy ar safonau lles anifeiliaid anwes yng Nghymru.
Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran cyflwyno mesurau i wella safonau iechyd a lles anifeiliaid ac mae wedi cyflwyno sawl darn o ddeddfwriaeth yn y blynyddoedd diwethaf.
Yn eu plith y mae cynllun trwyddedu, sy'n canolbwyntio ar les, ar gyfer bridwyr trwyddedig; yr angen i osod microsglodion ar gŵn; a chyflwyno gwaharddiadau ar ddefnyddio coleri sy'n rhoi sioc drydanol ac ar docio cynffonau cŵn am resymau cosmetig. Er mwyn gwella mwy ar safonau lles ar gyfer cŵn bach yng Nghymru, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau ei bod yn fwriad ganddi adeiladu ar y gwelliannau sydd wedi'u gwneud ers i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 gael eu cyflwyno, gan wneud hynny drwy edrych ar y posibilrwydd o wahardd gwerthu gan drydydd partïon. Bydd swyddogion yn mynd ati bellach i edrych ar yr opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen â hyn.
Wrth siarad yn y Cyfarfod Llawn, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd y bydd adolygiad yn cael ei gynnal o'r Rheoliadau ar Ficrosglodynnu, gan gynnwys ymchwil i weld i ba raddau y mae pobl yn cydymffurfio â nhw ac a ydynt yn cael eu gorfodi. Bwriedir ystyried a fyddai'n fuddiol ehangu cwmpas y Rheoliadau i gynnwys rhywogaethau eraill, gan gynnwys cathod.
O dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, mae dyletswydd gofal ar bawb sy'n cadw ac yn berchen ar anifeiliaid i sicrhau bod anghenion yr anifeiliaid hynny o ran lles yn cael eu diwallu, gan gynnwys y costau sy'n gysylltiedig â bod yn berchen ar anifail anwes. Fodd bynnag, mae amgylchiadau pobl yn gallu newid. Bydd gwaith yn cael ei wneud i weld pa ddarpariaeth, cymorth a chyngor milfeddygol sydd ar gael i bobl y mae angen cymorth arnyn nhw i ofalu am eu hanifeiliaid anwes − efallai pan fyddant yn sâl neu os bydd argyfwng, megis dianc o gartref treisgar.
Bydd Codau Ymarfer diwygiedig ar gyfer ceffylau a chŵn yn cael eu cyhoeddi cyn toriad yr haf a bydd ymgynghoriad ar y Cod diwygiedig ar gyfer Cathod yn dechrau yn yr hydref. Bydd y Cod ar gyfer Cwningod yn cael ei adolygu a bydd gwaith yn dechrau i weld a oes angen cyflwyno unrhyw Godau newydd, er enghraifft, ar gyfer primatiaid ac anifeiliaid egsotig eraill, neu ar gyfer milgwn rasio.
Yn 2016, cyflwynodd RSPCA Cymru achos o blaid cyflwyno Cofrestr Troseddwyr Anifeiliaid yng Nghymru, a sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ystyried y dystiolaeth. Oherwydd nad oes atebion ymarferol a fyddai'n golygu y byddai modd creu cofrestr o'r fath, ac oherwydd nad oes tystiolaeth ar lefel y DU i gefnogi'r effaith y mae rhai rhanddeiliaid yn credu y byddai cofrestr o'r fath yn ei chael, nodir yn yr adroddiad terfynol drafft nad yw'r Grŵp yn argymell datblygu cofrestr ar hyn o bryd. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cael yr adroddiad terfynol cyn Toriad yr Haf.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn hefyd i RSPCA Cymru ddarparu tystiolaeth ynghylch a yw'r argymhelliad yn Adroddiad Wooller yn 2014 i roi statws statudol i Arolygiaeth y RSPCA o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, yn ymarferol yng Nghymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth. Mae'n destun balchder inni yng Nghymru fod gennym safonau lles anifeiliaid rhagorol ac rydyn ni'n disgwyl i bawb gefnogi hynny drwy fod yn berchenogion cyfrifol.
"Rydyn ni wedi cyflwyno sawl darn o ddeddfwriaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf sy'n tanlinellu'n hymrwymiad i barhau i wella safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.
"Yng Nghymru, rydyn ni'n mynnu bod ein bridwyr trwyddedig yn arddel safonau uchel, a chael gafael ar gi bach iach, y gellir ei weld gyda'i fam, neu ailgartrefu anifail o Sefydliad Lles Anifeiliaid ag enw da, yw'r cam sylfaenol cyntaf tuag at fod yn berchennog cyfrifol. Ond mae mewnforio cŵn bach yn anghyfreithlon – rhywbeth sy'n cael ei ysgogi gan y galw enfawr − yn parhau'n broblem.
"Dwi'n credi ei bod yn werth ymchwilio i'r posibilrwydd o werthu gan drydydd partïon a bydda i'n trafod yr opsiynau gyda'm swyddogion er mwyn bwrw ymlaen â hyn.
"Heddiw, dwi'n cyhoeddi cyfres o fesurau i'n helpu i adeiladu ar ein llwyddiant hyd yma. Mae'n cynnwys adolygiad o'n Rheoliadau ar Ficrosglodynnu, cymorth i berchenogion pan fo'u hamgylchiadau'n newid, a diweddaru a chyhoeddi Codau Ymarfer newydd."Allwn ni ddim creu diwylliant o berchenogaeth gyfrifol ar ein pen ein hunain a dwi'n ddiolchgar am yr ymroddiad a'r angerdd sy'n cael eu dangos at anifeiliaid yng Nghymru. Mae mwy y gellir ei wneud bob amser ond rydyn ni'n ymfalchïo, fel cenedl, mae ni sydd ar flaen y gad o ran gwella safonau lles anifeiliaid."