Heddiw, bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cyhoeddi bod pecyn cymorth gwerth miliynau o bunnoedd ar gael i helpu'r diwydiant bwyd yng Nghymru baratoi ar gyfer Brexit.
Drwy Gronfa Bontio'r EU, sy'n cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru ac sy'n werth £50 miliwn, bydd swm o £2.15 miliwn yn cael ei ddarparu er mwyn helpu i ddatblygu'r sector cig coch yng Nghymru. Bydd y buddsoddiad yn helpu ffermwyr i nodi sut y gallant fynd ati i wella eu busnesau i'w helpu i fod yn fwy cystadleuol a bod mewn sefyllfa well o ran gwneud elw wrth fasnachu ar ôl Brexit.
Bydd cyllid yn cael ei roi hefyd i brosiect a fydd yn edrych ar ffyrdd o osgoi'r angen i fewnforio cymaint drwy helpu i ganfod ac i sicrhau cadwyni cyflenwi yn y DU ac annog cwmnïau yn yr UE i ymsefydlu yng Nghymru.
Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y diwydiant pysgota a'r diwydiant dyframaethu yn cael cymorth ariannol i helpu'r sector hwnnw ddod o hyd i farchnadoedd newydd a pharatoi ar gyfer masnachu y tu allan i'r UE yn y dyfodol.
Wrth siarad cyn iddo draddodi anerchiad yng Nghyfarfod Cyffredinol Undeb Amaethwyr Cymru yn Aberystwyth y bore 'ma, dywedodd y Prif Weinidog,

"Bydd Brexit yn creu nifer o heriau a chyfleoedd i'n diwydiant amaethyddiaeth a'n diwydiant pysgodfeydd. Bydd y cyllid dwi'n ei gyhoeddi heddiw o'n Cronfa Bontio'r UE yn rhoi cymorth y mae mawr ei angen. Fel Llywodraeth, byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r diwydiannau pwysig hyn baratoi ar gyfer byd ar ôl Brexit."