Bydd cynllun sy’n cael gwerth £9.2 miliwn o gymorth gan yr UE idatblygu technolegau ar gyfer leihau allyriadau carbon o ddiwydiannau Cymru yn cael ei gyhoeddi gan Lesley Griffiths.
Bydd y fenter Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol (RICE), o dan arweiniad y Sefydliad Ymchwil ar Ddiogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, yn defnyddio arbenigedd o’r radd flaenaf i leihau allyriadau carbon deuocsid o gyfleusterau a chyfarpar mawr a thrwm, ac i lywio economi sy’n gryfach ac yn fwy gwyrdd.
Gyda chefnogaeth gwerth £5.9 miliwn o gyllid UE, bydd RICE yn gweithio gyda chwmnïau yn y gadwyn gyflenwi leol i brofi sut y gall carbon deuocsid o brosesau diwydiannol trwm gael ei ddefnyddio mewn ffordd arloesol i greu nwyddau â gwerth uchel a chemegau sy’n bwysig i ddiwydiant.
Bydd y technolegau sydd i gael eu profi hefyd yn edrych ar greu hydrogen gwyrdd, fydd yn gallu cael ei ddefnyddio fel tanwydd i geir, mathau eraill o drafnidiaeth a phrosesau creu ynni er mwyn lleihau ein hôl troed carbon hyd yn oed yn fwy.
Fel rhan o’r prosiect, bydd systemau arddangos ar raddfa fawr yn cael eu sefydlu gyda Tata Steel, sef cwmni gweithgynhyrchu dur byd-eang, ynghyd â Dŵr Cymru, i gefnogi’r gwaith o brofi technolegau sy’n gallu dal carbon deuocsid a’i drosglwyddo yn gemegau o’r radd flaenaf megis proteinau pur ar gyfer bwydydd anifeiliaid ac asidau brasterog omega-3 DHA ar gyfer defnydd dynol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:
“Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â bygythiad ac effaith newid yn yr hinsawdd ynghyd â manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd. I gyrraedd ein targedau o ran y newid yn yr hinsawdd, mae’n rhaid i ni a’n partneriaid gydweithio gyda’r diwydiannau drwy ddulliau arloesol i greu prosesau a thechnolegau modern ac arloesol fydd, o bosibl, yn lleihau allyriadau carbon yn sylweddol ledled Cymru, gan greu amgylchedd glân i’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.”
Yn ogystal, y disgwyl yw y bydd busnesau a swyddi newydd yn cael eu creu yn y rhanbarth o ganlyniad i’r fenter.
Dywedodd yr Athro Andrew Barron:
“Caiff y rhan fwyaf o’r allyriadau carbon deuocsid yng Nghymru eu hallyrru gan ein diwydiannau, sy’n awgrymu mai prosesau lleihau carbon diwydiannol yw un o’r dulliau sydd yn mynd i gael yr effaith fwyaf ar ein gwaith o gyrraedd ein targedau ni a’r targedau ar gyfer yr Hinsawdd y cytunwyd arnynt ym Mharis. Gan weithio gyda’r diwydiannau bydd RICE yn profi technolegau carbon isel ac yn annog y defnydd ohonynt. Bydd hefyd yn hwyluso’r gwaith o greu diwydiannau newydd fydd yn gallu manteisio i’r eithaf ar y technolegau hyn ar gyfer y genhedlaeth nesaf er mwyn darparu cryn dipyn o gyfleoedd o ran gwaith.”