Mae cais am dystiolaeth ar waharddiad ledled y DU ar allforio anifeiliaid byw i'w lladd dramor wedi'i lansio heddiw.
Mae'r cynigion hyn yn ymwneud yn unig ag allforio anifeiliaid i'w lladd ac nid â gwahardd allforio anifeiliaid byw at ddibenion cynhyrchu neu fridio.
Gan nad yw'n bosib ar hyn o bryd gwahardd allforio anifeiliaid oherwydd rheolau masnach rydd yr UE, byddai gwaharddiad o'r fath yn bosib ar ôl i'r DU adael yr UE.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno hefyd i weithio â Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i ystyried sut y gellid gwella safonau lles anifeiliaid sy'n cael eu cludo a chefnogi rhagor o waith ymchwil yn y maes.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:
"Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i gynnal y safonau lles uchaf posib ar gyfer pob anifail yng Nghymru ac mae'n barn ynghylch allforio anifeiliaid byw i'w lladd yn glir.
"Byddai'n well gennym fod anifeiliaid yn cael eu lladd cyn agosed â phosib i'w man cynhyrchu a chredwn fod masnachu cig a chynhyrchion cig yn well na chludo anifeiliaid yn bell i'w lladd. Dyna pam rydyn ni'n cefnogi'r cais hwn am dystiolaeth ar waharddiad ledled y DU ar allforio anifeiliaid byw i'w lladd dramor.
"Er y bydd y cyhoedd yn debygol o fod o blaid gwaharddiad ar allforio anifeiliaid byw i'w lladd, mae'n bwysig gofio bod y fasnach ar hyn o bryd yn gyfreithlon ac na fyddai croeso gan bawb i waharddiad o'r fath. Er enghraifft, bydd y diwydiant da byw a'r sector defaid yng Nghymru yn debygol o fod yn gymysg eu barn, yn enwedig o gofio'r ansicrwydd ynghylch y berthynas fasnachol â'r UE yn y dyfodol.
"Rwy'n annog y cyhoedd, y diwydiant amaeth, partneriaid ac unrhyw un sydd â diddordeb yn lles anifeiliaid i gymryd rhan a rhannu eu barn â ni am y pwnc pwysig hwn."
"Rwyf wedi cytuno hefyd i weithio â Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i weld sut y gallwn gryfhau'r mesurau i amddiffyn lles anifeiliaid sy'n cael eu cludo a chefnogi rhagor o waith ymchwil yn y maes. Rwy'n disgwyl ymlaen at glywed argymhellion y ddau maes o law."