Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cadarnhaubod taliadau Glastir a Chynllun y Taliad Sylfaenol 2017 yn cael eu prosesu'n gyflymach na blynyddoedd blaenorol.
Dechreuwyd prosesu taliadau Glastir ar 29 Ionawr ac erbyn hyn mae dros 77% o hawliadau i fusnesau fferm wedi'u prosesu - dyma welliant sylweddol o'i gymharu â pherfformiad talu diwrnod cyntaf y llynedd.
Hefyd, mae 88% o'r hawliadau am waith cyfalaf Glastir wedi cael eu prosesu. Caiff busnesau fferm eu hannog i gyflwyno eu hawliadau am waith cyfalaf erbyn y dyddiad olaf sef 28 Chwefror gan nad oes modd prosesu hawliadau hwyr.
Dechreuodd cyfnod talu Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ar 1 Rhagfyr a chafodd dros 91% o'r hawliadau eu talu ar y diwrnod cyntaf. Unwaith eto, mae Taliadau Gwledig Cymru wedi gwneud yn well na'r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) a'r gweinyddiaethau eraill, gan dalu canran uwch o hawliadau BPS ar y diwrnod cyntaf.
Yn ogystal â gwneud yn well ar daliadau Glastir, rydym yn dal i wneud yn dda wrth dalu BPS. Mae dros 96% o’r hawliadau wedi cael eu talu hyd yma. Mae dros £223 miliwn wedi cael eu talu i mewn i gyfrifon banc bron i 15,000 o ffermwyr a busnesau yng Nghymru.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
"Rwy'n falch iawn o weld cynnydd mor sylweddol o safbwynt prosesu taliadau Glastir a thaliadau BPS eleni. Gan y bydd cyfnod prosesu hawliadau am waith cyfalaf o dan Glastir yn dod i ben ar 28 Chwefror hoffwn annog busnesau fferm i sicrhau bod eu hawliadau'n cael eu cwblhau a'u cyflwyno cyn gynted â phosibl.
“Yn yr un modd ag yn y blynyddoedd a fu, ni fydd pob busnes fferm wedi cael ei daliad Glastir a BPS ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu. Mae fy swyddogion yn gweithio'n galed i brosesu'r hawliadau sy'n weddill mor gyflym â phosibl. Rwy'n disgwyl i'r holl hawliadau, ac eithrio'r rhai mwyaf cymhleth, gael eu talu o dan y ddau gynllun erbyn diwedd mis Ebrill.
“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb, gan gynnwys rhanddeiliaid yn y diwydiant, sydd wedi bod yn cydweithio â fy swyddogion ar y gwaith parhaus i ddatblygu RPW Ar-lein, ac sydd wedi cyfrannu at y gwelliant wrth wneud taliadau Glastir a BPS ar gyfer 2017.”