Yn dilyn y cyhoeddiad fod Ffliw Adar wedi’i ddarganfod ar ddau safle yn Lloegr.
“Rwyf wedi ystyried yn ofalus, ar y cyd â’n Prif Swyddog Milfeddygol, benderfyniad DEFRA i weithredu parth atal ffliw adar ar draws Lloegr gyfan, ar ôl i’r lefel risg ar gyfer dofednod gael ei chodi i “canolig” ac ar ôl codi’r lefel risg ar gyfer adar gwyllt i “uchel”.Ceir cyngor ynghylch bioddiogelwch ar wefan Llywodraeth Cymru.
“Nid oes unrhyw dystiolaeth ar hyn o bryd sy’n awgrymu bod achosion o ffliw adar yng Nghymru ac nid yw’r risg filfeddygol yn cyfiawnhau gosod camau rheoli gorfodol ar draws y wlad. Mae ffliw adar wedi cael ei ddarganfod mewn adar gwyllt, ac nid mewn dofednod nac adar caeth. Rwyf wedi penderfynu felly, ar sail cyngor milfeddygol, nad oes cyfiawnhad dros ddatgan camau gorfodi statudol yng Nghymru. Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn ofalus, gan adolygu’r angen am gamau rheoli ac annog ceidwaid dofednod i fod yn wyliadwrus ac i gydymffurfio â phrotocolau bioddiogelwch llym er mwyn amddiffyn eu hadar. Rydym yn barod i gyflwyno mesurau mwy llym os bydd y sefyllfa’n newid.”