Bu Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd yn ymweld â rhai o goetiroedd prydferthaf Gogledd Cymru heddiw pan welodd rai o goed hynaf Cymru ac un o’n wiwerod coch prin.
Aeth Hannah Blythyn i ymweld â Choedwig Clocaenog, sy’n cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru, i ddod i wybod mwy am y gwaith cadwraeth sy’n digwydd yno. Mae wiwerod coch yn brin yng Nghymru. Yn ogystal â Choedwig Clocaenog, mae rhagor o wiwerod i’w gweld ar Ynys Môn ac yn y canolbarth.
Mae’r wiwer goch yn cael ei bygwth gan y wiwer lwyd estron, a chan glefydau, yn benodol y firws brech yr wiwer, a’r gystadleuaeth am fwyd.
I geisio ag amddiffyn y wiwer goch rhag y wiwer lwyd, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Gynllun Gweithredu Rheoli y Wiwer Lwyd, wedi’i gynhyrchu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac arbenigwyr ar wiwerod. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynhyrchu Cynllun Rheoli Coedwigoedd hefyd ar gyfer Clocaenog, sy’n datgan pryd a ble y mae’n bosib torri coed heb amharu ar y rhywogaethau sy’n cael eu hamddiffyn yno.
Yna aeth y Gweinidog i’r Waun, Wrecsam, ble y cafodd daith gan Rob McBride, yr “heliwr coed”, o amgylch rhai o goed mwyaf hynafol ac enwog Cymru. Mae hyn yn cynnwys y dderwen fawr wrth Borth y Meirw yn Y Waun, y credir sydd dros 1,000 o flynyddoedd oed.
Cafodd y goeden yr enw o’r cyfnod pan y bu i luoedd Cymru ymosod yn annisgwyl ar fyddin Lloegr oedd yn ymosod ar Gymru yn 1165, a chafodd y meirw eu claddu gerllaw. Credir bod y dderwen yn dod o gyfnod teyrnasiaeth y Brenin Egbert yn 802, ac mae gerllaw safle Brwydr Crogen o 1165.
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) llynedd yn cynnig dull o fonitro y broses o reoli coed hynafol, hynod a threftadaethol yn gynaliadwy, a chyfleoedd iddynt fodloni blaenoriaethau a heriau lleol. Hefyd, mae ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ‘Datblygu’r Dull o Reoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy’, wedi datgelu cefnogaeth gyffredinol i amddiffyn coed hynafod a hynod yn well.
Meddai Hannah Blythyn:
“Ein coetiroedd yw rhai o’n cynefinoedd naturiol gorau. Mae’r amgylcheddau y maent yn eu creu yn cynnig cyfleoedd i bobl, busnesau a bioamrywiaeth. Maent yn gwneud gwahaniaeth mawr nid yn unig i’n bywydau, ond fel y gwelais heddiw, i boblogaethau prin megis y wiwer goch.
“Mae gan ein coed hefyd hanesion gwych i’w hadrodd am orffennol ein cenedl. Roedd gen i ddiddordeb mawr i glywed hanes yr hen dderwen ger Porth y Meirw. Trwy Ddeddf arloesol Cymru, Deddf yr Amgylchedd, mae gan ein coed hanesion diddorol iawn i’w hadrodd am orffennol ein cenedl. Roedd gennyf ddiddordeb mawr i glywed hanes y dderwen fawr ger Porth y Meirw. Trwy Ddeddf yr Amgylchedd, a’n hymgynghoriad diweddar, rydym yn cymryd camau pwysig i sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod, fel y gall genedlaethau’r dyfodol barhau i brofi’r manteision niferus a ddaw yn sgil ein coed a’n coetrioedd.”