Bydd carreg filltir bwysig yn cael ei chyrraedd heddiw o ran y datblygiadau yng Nghymru yn dilyn datganoli, gyda chyflwyno protocol dŵr ar gyfer Cymru a Lloegr.
Mae gan Ysgrifennydd Gwladol Prydain dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig bwerau ymyrryd ar hyn o bryd sy'n golygu ei bod yn bosib iddo ef neu hi ddileu deddfwriaeth y Cynulliad neu ymyrryd gyda swyddogaethau datganoledig y mae ef neu hi yn gredu sy'n golygu y byddai perygl iddynt gael effaith negyddol ddifrifol ar adnoddau dŵr, y cyflenwad dŵr neu ansawdd dŵr yn Lloegr. Nid oes gan Weinidogion Llywodraeth Cymru bwerau cyfatebol.
Mae'r protocol, sy'n cael ei osod ar y cyd gerbon Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, yn paratoi'r ffordd ar gyfer diddymu yr hen bwerau ymyrryd hyn y flwyddyn nesaf.
Mae'r protocol yn ail-gadarnhau y cydweithio agos rhwng Cymru a Llywodraeth y DU ar faterion hanfodol megis adnoddau dŵr, y cyflenwad dŵr ac ansawdd y dŵr. Mae hefyd yn pennu na fyddai cymryd camau neu beidio â chymryd camau gan unrhyw weinyddiaeth yn cael effaith negyddol ddifrifol ar naill ai Gymru na Lloegr fel ei gilydd.
Wrth siarad cyn gosod y protocol, dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:
"Mae cyflwyno'r protocol hwn yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd yn y setliad datganoli a allai, yn ymarferol, olygu bod Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ymyrryd mewn materion sy'n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.
"Dwi'n falch o'r ffordd adeiladol a phositif y mae'r ddwy weinyddiaeth wedi mynd i'r afael â drafftio a gweithredu cytundeb sy'n golygu bod defnyddwyr dŵr ar y ddwy ochr i'r ffin yn cael eu diogelu, sy'n bwysig iawn".