Bydd Lesley Griffiths yn cyhoeddi menter newydd gwerth £250,000 heddiw, gyda'r nod o wella sgiliau'r bobl sy'n gweithio yn y diwydiant bwyd yn y Cymoedd a chodi ymwybyddiaeth o yrfaoedd yn y sector.
Yn y gyntaf o blith dwy gynhadledd 'Buddsoddi mewn Sgiliau, Buddsoddi mewn Twf', a gynhelir yng Ngwesty'r Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyhoeddi cyllid o £250,000 i gynnal dau brosiect peilot, gan gydweithio â Thasglu'r Cymoedd Llywodraeth Cymru.
Bydd Menter y Cymoedd Llywodraeth Cymru yn ymwneud â dau brif faes yn y diwydiant bwyd. Gan ganolbwyntio ar y Cymoedd, bydd y prosiect cyntaf yn rhoi cyllid tuag at wella sgiliau'r gweithlu. Bydd hyn yn helpu'r rhai sydd eisoes yn rhan o'r diwydiant i ddatblygu'n dechnegwyr.
Bydd yr ail brosiect yn gweithio gyda chymunedau a busnesau lleol i godi ymwybyddiaeth o'r gyrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiant a'u gwneud yn fwy deniadol.
Yn siarad cyn y gynhadledd, a drefnwyd gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:
"Ein diwydiant bwyd a diod yw un o sectorau busnes mwyaf Cymru ac mae'n llwyddiannus iawn. Mae dros 222,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y gadwyn gyflenwi gyfan, ac yn 2016 fe wnaethom ni allforio gwerth £337 miliwn o gynhyrchion. Roedd hynny'n gynnydd o tua 20% i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
"Er hynny, fedrwn ni ddim anwybyddu'r heriau sy'n wynebu'r sector. Mae Brexit, er enghraifft, yn her nid yn unig o ran diogelu ein cadwyni cyflenwi a'n gallu i allforio, mae hefyd yn fygythiad i ba mor sefydlog yw ein gweithlu.
"Dw i eisiau sicrhau bod y ffyniant y mae'r diwydiant wedi'i greu yn cael ei gynnal dros y blynyddoedd nesaf. Drwy Fenter y Cymoedd Llywodraeth Cymru, dw i'n ei chyhoeddi heddiw, dw i eisiau annog pobl ifanc i ystyried gweithio'n y sector bwyd fel gyrfa sy'n rhoi boddhad mawr, gan leihau ein dibyniaeth ar weithwyr o dramor. Bydd hynny, yn ei dro, yn sicrhau bod diwydiant bwyd a diod Cymru'n barod am yr heriau sydd o'n blaenau."
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, y gweinidog sy’n arwain Tasglu'r Cymoedd:
"Bydd y fenter hon yn atgyfnerthu'r blaenoriaethau a nodwyd yn Ein Cymoedd, Ein Dyfodol. Bydd Tasglu'r Cymoedd yn gweithio gyda phobl leol, busnesau lleol, llywodraeth leol, y trydydd sector a sefydliadau dinesig i hyrwyddo’r Cymoedd fel ardal i fuddsoddi ynddi a lle i fyw."