Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn cyhoeddi y bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cael dros £1 miliwn.
Defnyddir yr arian ar gyfer gwaith dylunio’r cynllun i amddiffyn yr arfordir.
Rhagwelir y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ym mis Medi 2019 a bydd yn cynnwys wal gynnal y graig a wal barapet uwch sy’n ychwanegu at y gwaith a wnaed eisoes ar y cwrs golff i ddargyfeirio a storio dŵr sy’n dod dros y forglawdd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn gwaith rheoli’r perygl o lifogydd. Ein blaenoriaeth ni a blaenoriaeth y Cyngor yw lleihau’r peryglon i drigolion Dwyrain Rhyl. Rydyn ni’n gwybod bod angen cryfhau’r amddiffynfeydd hyn ar gyfer y tymor hir a dw i’n falch o weld bod y cam dylunio’r prosiect ar fin cychwyn.
“Rydyn ni’n cydweithio ag awdurdodau lleol arfordirol i fuddsoddi £150 miliwn i leihau’r peryglon sydd ein hwynebu o ran lefel y môr yn codi a newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn ategu buddsoddiad pellach o £144 miliwn ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd tra bydd y Llywodraeth hon mewn grym.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol y Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros yr amgylchedd yng Nghyngor Sir Ddinbych:
“Rydyn ni’n croesawu’n fawr y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru gan y bydd yn ein helpu i flaenoriaethu’r gwaith o wella amddiffynfeydd arfordirol ac amddiffynfeydd llifogydd yn y rhan hon o’r sir.
“Mae’r gymuned leol yn nwyrain Rhyl wedi cael llifogydd yn ddiweddar ac mae wedi galw ar y Cyngor a’i bartneriaid i ystyried beth allen nhw ei wneud i leihau’r peryglon o lifogydd yn y dyfodol.
“Rydyn ni wedi gwneud gwaith yn ardal Garford Road yn barod i wella’r amddiffynfeydd, a dylai’r cynllun diweddar hwn ddangos i’r gymuned leol ein bod wedi ymrwymo i sicrhau bod trigolion yn ddiogel.”