Lesley Griffiths, wedi atgoffa ffermwyr a milfeddygon y bydd rheolau newydd ar gyfer atgyfnerthu ein hymdrechion i ddileu TB buchol yn dod i rym ddydd Sul (1 Hydref).
Ym mis Mehefin cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet Raglen newydd i Ddileu TB, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i fabwysiadu ymagwedd fwy rhanbarthol at ddileu’r clefyd yng Nghymru.
O ddydd Sul, bydd ardaloedd TB Isel, Canolradd ac Uchel yn cael eu sefydlu yng Nghymru ar sail lefelau achosion o TB buchol.
Bydd mesurau uwch yn cael eu cyflwyno ymhob Ardal TB, gan ddibynnu ar y peryglon o ran y clefyd a'r ffactorau sy'n ei achosi. Nod y dull hwn yw amddiffyn gwartheg o fewn yr Ardaloedd TB isel a hefyd leihau nifer yr achosion o'r clefyd yn yr Ardaloedd Canolradd ac Uchel.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Rydym wedi cydweithio'n agos â'r diwydiant er mwyn datblygu'r mesurau uwch a newydd hyn. Gyda'n gilydd gallwn gyflawni ein nod o gael Cymru heb TB.
"Ni allaf or-bwysleisio pwysigrwydd y gwaith o fynd i'r afael â'r achosion o TB mewn buchesi sydd wedi parhau ers amser hir. Mae rhai ffermydd wedi bod o dan gyfyngiadau ers 10 mlynedd neu fwy. Ar gyfartaledd, mae'r gost o brofi'r buchesi hyn a rhoi iawndal am wartheg a gaiff eu difa bron i £200,000 fesul buches. Bydd gwaredu'r haint o fewn y buchesi hyn yn sicrhau arbedion sylweddol i'r trethdalwr ac i fusnesau fferm.
"Byddwn yn monitro effeithiau'r holl fesurau hyn yn ofalus a'n nod yw gallu adolygu ffiniau'r Ardaloedd TB cyn gynted ag y bydd gennym y set ddata ar gyfer blwyddyn galendr lawn 2018.
"Rydym eisoes wedi gwneud gwir gynnydd tuag at ddileu TB yng Nghymru. Gwelwyd mwy na 40% o ostyngiad yn nifer yr achosion newydd ers 2009 pan roeddynt ar eu huchaf ac mae'r lefel yn is nawr nag ers 12 mlynedd. Erbyn hyn mae 95% o fuchesi Cymru'n glir rhag TB a hoffwn ddiolch i'r diwydiant ffermio, y proffesiwn milfeddygol ac i randdeiliaid eraill am eu cydweithrediad a'u hymwneud parhaus wrth i'n Rhaglen ddatblygu ac esblygu."
Bydd y drefn flynyddol o gynnal profion TB ar fuchesi'n parhau ar draws Cymru, a hynny ochr yn ochr â'r mesurau newydd. Mae gennym werth bron i wyth mlynedd o ddata am brofion blynyddol yng Nghymru ac mae camau goruchwylio o'r fath yn rhoi sicrwydd pendant i ni o statws buchesi gwartheg yng Nghymru.
Mae’r Rhaglen Dileu TB a’r Cynllun Cyflawni i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.