Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi atgoffa ffermwyr godro Cymru sy’n cadw cofnodion llaeth i fanteisio ar gymorth ariannol yr UE cyn 19 Awst.
Mae cadw cofnodion llaeth yn ffordd o gael gwybodaeth ddiduedd ynghylch iechyd a ffrwythlondeb buches a pha mor gynhyrchiol yw hi. Mae cael gwybodaeth am berfformiad pob buwch yn helpu busnesau ffermio i ddod yn fwy effeithlon, gwydn a phroffidiol.
Mae’r Cynllun Cadw Cofnodion Llaeth yn wirfoddol, ond un taliad yn unig sydd ar gael fesul cyfeirnod cwsmer. Gan ddibynnu ar nifer y ceisiadau a ddaw i law, bydd y taliad i ffermwyr sydd wedi trefnu contract cofnodion llaeth, neu sy'n dewis gwneud hynny, yn £750 o leiaf.
I fod yn gymwys, mae’n rhaid bod gan ffermwr gontract cofnodi llaeth cyfredol neu un newydd, ar gyfer cofnodi samplau llaeth buwch unigol o leiaf bedair gwaith y flwyddyn. Gall y gwaith hwn gael ei wneud gan y ffermwyr eu hunain, neu â chymorth.
Mae’r UE yn darparu cymorth i fusnesau ffermio er mwyn cydnabod yr anawsterau sydd wedi effeithio ar y farchnad laeth yn ddiweddar. Yn ogystal ag elwa ar y cynllun cofnodi llaeth, bydd hyd at 1,000 o ffermwyr Cymru yn elwa ar gymorth meincnodi ar wahân. O dan y cynllun gwirfoddol hwn, bydd ffermwyr sy’n cymryd rhan yn cael £1,800 ac adroddiad meincnodi sy’n dangos cryfderau a gwendidau eu busnesau.
Dywedodd Lesley Griffiths:
“Mae’r sector godro yn chwarae rôl bwysig wrth gynnal ein cymunedau gwledig. Fel Llywodraeth sydd o blaid y byd busnes, rydym wedi ymrwymo i gynnal hyfywedd a phroffidioldeb y sector godro yn y tymor hir.
“Rydym yn cydnabod yr anawsterau a brofwyd gan ffermwyr godro yn ddiweddar a hoffwn i weld busnesau ffermio yng Nghymru yn manteisio ar yr holl fathau o gymorth sydd ar gael. Mae’n cymryd llai na phum munud i lenwi ffurflen y cynllun cadw cofnodion llaeth a gall ffermwyr ddychwelyd y ffurflenni inni unrhyw bryd cyn 19 Awst."