Mae'r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi rhaglen gryfach i ddileu TB sy’n ymrwymo i fabwysiadu ymagwedd fwy rhanbarthol at ddileu’r clefyd.
O 1 Hydref eleni, caiff ardaloedd TB Isel, Canolradd ac Uchel eu sefydlu yng Nghymru ar sail lefelau achosion o TB mewn gwartheg.
Bydd mesurau ychwanegol pwrpasol yn cael eu gweithredu ym mhob ardal TB er mwyn diogelu’r Ardal TB Isel a gostwng lefel y clefyd yn yr Ardal TB Canolradd a’r Ardal TB Uchel. Mae hyn yn dilyn ystyried yr ymatebion i ymgynghoriad a lansiwyd ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r mesurau rheoli cryfach yn cynnwys cyflwyno profion ar ôl symud yn yr Ardaloedd TB Isel o 1 Hydref 2017. Bydd hyn yn diogelu’r ardal drwy nodi anifeiliaid sydd wedi’u heintio yn gyflym, cyn iddynt allu heintio anifeiliaid eraill. Cyflwynir y mesur hwn hefyd yn yr Ardaloedd TB Canolradd y flwyddyn nesaf i rwystro’r clefyd rhag lledaenu o Ardaloedd TB Uchel cyfagos.
Y flaenoriaeth ar gyfer Ardaloedd TB Uchel yw parhau i leihau nifer yr achosion o TB. O dan y Rhaglen, bydd gan bob buches â TB cronig gynllun gweithredu unigol gyda mesurau rheoli sy’n anelu’n benodol at glirio’r haint mewn gwartheg.
Yn y buchesi â TB cronig hyn lle ceir tystiolaeth bod moch daear wedi’u heintio, byddwn yn ystyried amrywiaeth o opsiynau i leihau'r risg o ledaenu’r clefyd, gan gynnwys eu trapio mewn cawell, cynnal profion a, lle’r bo angen, lladd heb greulondeb foch daear sydd wedi’u heintio.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau i ddiystyru rhaglen ar raddfa fawr i ddifa moch daear fel y gwneir yn Lloegr.
Gan siarad yn y Senedd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gwneud gwir gynnydd tuag at ddileu TB yng Nghymru. Mae nifer yr achosion newydd wedi gostwng 40% ers y lefel uchaf yn 2009. Ar hyn o bryd mae 95% o fuchesi yng Nghymru heb TB.
“Dw i wedi gwrando ar ymatebion y diwydiant i’n hymgynghoriad a dw i wedi cynnwys beth oedd yn briodol ac yn rhesymol yn y Rhaglen. Ni ddylid ystyried hyn yn gynllun y Llywodraeth yn unig; mae wedi’i ddatblygu ar ôl ymgynghori â’r diwydiant a chaiff ei adolygu dros amser. Galwaf yn awr ar y diwydiant ffermio a’r proffesiwn milfeddygol i chwarae rhan lawn ynddi. Gyda’n gilydd gallwn gyflawni ein nod o gael Cymru heb TB."
Mae’r Rhaglen Dileu TB newydd a’r Cynllun Cyflawni i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.