Bydd Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru yn cael dros £12 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru eleni.
Mae Lesley Griffiths wedi cyhoeddi y bydd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro yn cael cyfanswm o £9.5 miliwn o arian grant ar gyfer 2017/18.
Yn y cyfamser, mae'r pum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yng Nghymru wedi cael £275,000 heddiw i'w helpu i barhau i gyflawni amcanion y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. O dan y gronfa hon, bydd yr AHNEoedd yn cael £55,000 yr un i sefydlu prosiectau a fydd yn hyrwyddo ffyrdd mwyn cynaliadwy o fyw ac o weithio, gan integreiddio harddwch naturiol, bywyd gwyllt, y dirwedd, defnydd tir a chymunedau.
Yn gynharach eleni, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai swm arall o £2.5 miliwn yn cael ei ddarparu, yn ychwanegol at y cyllid craidd, i gefnogi prosiectau a nodwyd gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac AHNEoedd Cymru. Yn eu plith y mae mentrau i hyrwyddo hamdden yn yr awyr agored ac i wella diogelwch ar y mynyddoedd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Rydyn ni i gyd yn gwybod bod gan Gymru rai o'r nodweddion naturiol prydferthaf a mwyaf trawiadol unrhyw le yn y byd. Mae'n Parciau Cenedlaethol a'n Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn odidog ac maen nhw wedi bod yn denu ymwelwyr a phobl leol ers blynyddoedd.
“Yn gynharach eleni, llwyddais i ddarparu swm ychwanegol o £2.5 miliwn i gefnogi prosiectau a nodwyd gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac AHNEoedd Cymru. Dw i'n edrych 'mlaen at weld y prosiectau hyn yn dwyn ffrwyth dros y misoedd nesaf.
"Dw i'n falch heddiw o fedru cadarnhau gwerth bron £10 miliwn o gyllid a fydd yn galluogi'n Parciau Cenedlaethol a'n AHNEoedd i barhau i warchod a gwella#'r tirweddau gwerthfawr hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."