Bydd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn rhan o bresenoldeb cryf o Gymru yn Expo Bwyd Môr Byd-eang 2017, y ffair fwyaf yn y byd ar gyfer y fasnach bwyd môr.
Cynhelir y digwyddiad ym Mrwsel rhwng 25 a 27 Ebrill a bydd yn llwyfan delfrydol ar gyfer arddangos bwyd môr Cymru o ansawdd uchel ac yn rhoi cyfle ardderchog i gynhyrchwyr o Gymru greu cysylltiadau â thros 30,000 o brynwyr a chyflenwyr o dros 150 o wledydd.
Bydd gwaith pwysig Clwstwr Bwyd Môr Cymru hefyd yn cael sylw yn Expo Bwyd Môr Byd-eang 2017. Mae’r clwstwr yn dwyn ynghyd bysgotwyr, gwerthwyr pysgod a busnesau dyframaethu sydd am dyfu, ac mae wedi ymrwymo i ychwanegu gwerth at bysgod a physgod cregyn sy’n cael eu dal neu’u ffermio ar lannau Cymru.
Bydd busnesau Clwstwr Bwyd Môr Cymru, sef The Lobster Pot, Extra Mussels, Bangor Mussel Producers, WM Shellfish a South Quay Shellfish, yn ymuno â Rebecca Evans yn y digwyddiad.
Wrth edrych ymlaen at fynd i Expo Bwyd Môr Byd-eang 2017, dywedodd y Gweinidog:
“Rydym i gyd yn gwybod bod gan Gymru amrywiaeth eang o gynhyrchwyr bwyd a diod o’r radd flaenaf sy’n denu sylw'r byd. Mae ein bwyd môr yn rhan bwysig iawn o’n cynnyrch.
“Mae’r diwydiant bwyd môr yn cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos mai gwerth dyframaethu yw £17.2M a gwerth pysgod cregyn sy’n cael eu dal oddi ar arfordir Cymru yw £10.6M. Mae’r Clwstwr Bwyd Môr yn parhau i gryfhau a dod yn fwy uchelgeisiol ac rwy’n sicr y bydd yn chwarae rhan bwysig wrth gynyddu gwerth y sector hyd yn oed ymhellach.
“Yn dilyn pleidlais y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’n bwysicach nag erioed inni barhau i fod yn bresennol mewn digwyddiadau masnach fel Expo Bwyd Môr Byd-eang 2017. Drwy greu cysylltiadau â phrynwyr a chyflenwyr o amgylch y byd, mae gan ein cynhyrchwyr y cyfle i ddangos eu cynnyrch wrth iddyn nhw geisio denu cwsmeriaid newydd a manteisio ar farchnadoedd newydd.
“Rydym eisoes wedi rhagori ar ein targed i gynyddu’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru 30% i £7 biliwn erbyn 2020. Rwy’n gobeithio y bydd dod i ddigwyddiadau fel hyn yn gallu darparu llwyfan rhyngwladol i arddangos y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, yn ogystal â chodi proffil ein brand.”