Mae Lesley Griffiths wedi cyhoeddi ffurf newydd ar Fwrdd Hybu Cig Cymru, sydd â’r dasg o hyrwyddo sector cig coch llewyrchus a chadarn yng Nghymru wedi Brexit
Y canlynol sydd wedi’u penodi i Fwrdd Hybu Cig Cymru o’r 1 Ebrill 2017:
Barrie Jones
Catherine Smith
Claire Louise Williams
Gareth Wynn Davies
Helen Howells
Huw Davies
Illtud Dunsford
John T Davies
Ogwen Williams
Rachael Madeley Davies
Roedd y broses recriwtio ar gyfer y Bwrdd newydd yn ceisio denu ymgeiswyr mwy amrywiol sydd â phrofiad eang a gwybodaeth sylweddol o’r sector amaethyddol yng Nghymru.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
“Oedd fy mod yn ceisio sicrhau bod y Bwrdd yn gallu cefnogi a herio’r swyddogion gweithredol ar y meysydd allweddol o gynllunio strategol, llywodraethu corfforaethol a marchnata. Wrth ystyried argymhellion Kevin Roberts o’i arolwg diweddar o Hybu Cig Cymru, roeddwn am i aelodau unigol y Bwrdd allu cyfathrebu a thrafod yn uniongyrchol ac yn effeithiol gyda’r rhai sy’n talu ardollau."
“Rwy’n arbennig o falch bod y broses wedi sicrhau Bwrdd sy’n gyfartal o ran y rhywiau ac sy’n adlewyrchu’r doniau amrywiol o fewn y maes amaethyddol yng Nghymru. Rwyf am weld mwy o fenywod mewn swyddi arwain o bwys”.
Er bod deg o ymgeiswyr rhagorol wedi’u argymell i’w penodi i’r Bwrdd, nid oedd y Panel Dethol yn teimlo bod modd iddynt argymell unrhyw un ohonynt i’w penodi i’r swydd wag o Gadeirydd.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
“Bydd swyddogaeth HCC ar ôl Brexit hyd yn oed yn bwysicach. Rydym angen i Gadeirydd allu arwain y sefydliad i’r cyfnod newydd ansicr hwn, a byddaf cyn bo hir yn dechrau recriwtio i ddod o hyd i berson fyddai’n gallu derbyn y swydd hynod bwysig hon. Yn y cyfamser, rwyf wedi gofyn i Kevin Roberts, a gynhaliodd yr arolwg diweddar o HCC, ac sy’n Gadeirydd annibynnol Amaeth Cymru ar hyn o bryd, a chanddo brofiad sylweddol o’r diwydiant a chyrff sy’n talu ardollau, i dderbyn swydd Cadeirydd dros dro. Rwy’n falch ac yn ddiolchgar bod Kevin wedi cytuno i wasanaethu am y cyfnod byr sydd ei angen tra y cynhelir y broses recriwtio ar gyfer y swydd.”