Mae Mainstay Marine Solutions yn Sir Benfro wedi cael £5.8 miliwn gan Lywodraeth Cymru i adeiladu dwy Long Patrolio Pysgodfeydd newydd.
Dyfarnwyd y contract yn sgil proses geisio gystadleuol ryngwladol, a bydd y llongau yn cael eu hadeiladu yng Nghymru gan gwmni lleol a fydd yn darparu swyddi crefftus yn Sir Benfro.
Bydd y llongau newydd yn cymryd lle’r hen longau presennol er mwyn rhwystro pysgota anghyfreithlon yn nyfroedd Cymru, a diogelu y diwydiant pysgota a chymunedau arfordirol Cymru yn y blynyddoedd i ddod.
Ers ei sefydlu yn 2014, mae Mainstay Marine wedi diogelu 30 o swyddi ac wedi creu 50 o swyddi newydd. Mae 98% o’i weithwyr yn byw yn Sir Benfro. Mae’r cwmni hefyd yn cyflogi 10% o’i weithlu uniongyrchol fel prentisiaid.
Cyhoeddodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, y contractau yn ystod ymweliad â safle Mainstay Marine Solutions yn Sir Benfro i weld y gweithdai lle bydd y llongau yn cael eu hadeiladu.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei chyfrifoldeb dros reoli a gwarchod moroedd Cymru o ddifrif, ac mae’n bwysig bod gennym yr adnoddau i wneud hyn. Rwy’n falch y bydd llongau newydd yn cymryd lle’r hen longau a bod cwmni o Gymru wedi llwyddo i ennill y contract i gwblhau’r gwaith hwn.
“Mae Mainstay Marine Solutions wedi dangos ymrwymiad i wella sgiliau a datblygu ei weithlu lleol, a rhagwelir y bydd llwyddiant parhaus y cwmni yn helpu i greu mwy o swyddi yn lleol, sy’n newyddion gwych i’r economi leol.”
Dywedodd Philip Hilbert, Cyfarwyddwr Gwerthiant Marine Specialised Technology Limited, sydd â’u pencadlys yn Lerpwl:
“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect nodedig hwn i gyflenwi y Cabin RIB, sy’n brosiect pwysig iawn inni. Mae gorfodi ym maes pysgodfeydd yn farchnad allweddol inni a bydd y llong hon yn uchafbwynt technolegol ar gyfer cychod bychain."
Dywedidd Stewart Graves, rheolwr cyfarwyddwr Mainstay Marine:
"Mae Mainstay Marine Solutions yn parhau i dyfu a denu busnes ac yn falch iawn o fod wedi ennill y contract i ddarparu’r ddau gwch hwn ar gyfer Fflyd Amddiffyn Pysgodfeydd Cymru. Mae dau beth yn sylfaenol i’n llwyddiant. Y cyntaf yw ein gweithlu, ei sgiliau amryddawn a’i falchder wrth ddarparu cynnyrch o’r ansawdd uchaf yn ddiogel. Yr ail yw’r gefnogaeth ragorol y mae Lywodraeth Cymru, Cyllid Cymru ac Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau wedi’i rhoi inni.”
“Enillodd Mainstay Marine y contractau hyn er gwaethaf cystadleuaeth ryngwladol ffyrnig. Mae’n arwydd o hyder yn y busnes ac yn dangos pa mor gystadleuol yw ein Iard Dylunio ac Adeiladu Llongau yng Nghymru."
Enillwyd y contract gan Mainstay Marine Solutions yn sgil ymarfer caffael cystadleuol ledled Ewrop.
Disgwylir y llongau newydd fod ar waith erbyn hydref 2018. Byddant yn cynnwys Llong Batrolio Un-corff 26m, i Bysgodfeydd y De a Llong Batrolio Catamaran 19m, i Bysgodfeydd y Gogledd.