Cylch Gorchwyl Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth
Ein nod yw datblygu gweledigaeth strategol integredig ar gyfer darparu addysg gyrfaoedd, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad yn y sector amaethyddol yng Nghymru.
Cynnwys
Cefndir
Cafodd deddfwriaeth i greu'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth i Gymru ei chynnwys yn Neddf y Sector Amaethyddol (Cymru) 2014. Sefydlwyd y Panel ym mis Ebrill drwy gyfrwng Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016. Mae'r Panel wedi cynnal tri chyfarfod - y cyntaf ar 24ain Mehefin, yr ail ar 8fed Medi, a'r trydydd ar 24ain Hydref.
Mae adran 14(1) o'r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel sefydlu is-bwyllgor parhaol o'r enw'r "Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant". Mae adran 14(3) yn pennu y bydd un aelod yn cael ei ddewis o blith aelodaeth Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ac un o Lantra Cymru. Bydd yr aelodau eraill yn Aelodau Annibynnol o'r Panel a benodir gan Weinidogion ac o bosibl pobl eraill y gall y Panel eu penodi maes o law.
Mae Lantra Wales wedi enwebu Kevin Thomas, Cyfarwyddwr, ac aelodau CFfI Cymru yw Sian Thomas a Nia Lloyd.
Caiff y Panel benodi aelodau eraill i ddarparu'r arbenigedd angenrheidiol i symud y gwaith hwn yn ei flaen. Felly, efallai yr hoffai Unite ac NFU/FUW awgrymu pobl o'u sefydliadau nhw i wasanaethu. Hefyd, gall fod eraill y mae'r Panel yn teimlo y byddent yn aelodau addas.
Diben y Pwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant
Datblygu gweledigaeth strategol integredig ar gyfer darparu addysg gyrfaoedd, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad yn y sector amaethyddol yng Nghymru.
Bydd y Pwyllgor yn sbarduno cydweithio effeithlon ac effeithiol rhwng sefydliadau sy'n rhoi cefnogaeth a hyfforddiant gyrfaoedd yn y sector. Bydd yn rhoi cyngor i'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth ar ddatblygu sgiliau, hyfforddiant a datblygu gyrfa ac i Weinidogion Cymru yn ôl y gofyn.
Cyd-destun
Yn rhoi ffocws ar:
- ddatblygu sgiliau a hyfforddiant fel buddsoddiad allweddol yn y diwydiant yn hytrach na chost
- anghenion unigolion sy'n gweithio yn y sector gan gynnwys sgiliau rheoli, sgiliau craidd a datblygu gyrfa
- anghenion y rheini sy'n dechrau gyrfa newydd yn y diwydiant
- asesu'r bylchau yn y ddarpariaeth a ffyrdd o fynd i'r afael â’r rheini
- hwyluso trafodaeth ynghylch datblygu sgiliau'r sector amaethyddol yn y dyfodol rhwng amrywiaeth o sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill
- herio'r ddarpariaeth bresennol yn ôl yr angen.
Rhaglen waith
Bydd y Pwyllgor a'r Panel yn cytuno arni er mwyn hwyluso datblygiad:
- safonau ansawdd cytûn wrth gyflenwi addysg, gwybodaeth ac arweiniad ar gyfer y sector − yn benodol mewn perthynas â datblygiad proffesiynol a sicrwydd ansawdd
- map o’r ddarpariaeth bresennol i nodi unrhyw fylchau neu ddyblygu.
Nodau a chyfrifoldebau
Bydd yr Is-bwyllgor yn gyfrifol am:
- ddatblygu a chyflwyno rhaglen waith y cytunir arno
- rhoi cyngor i'r Panel ar ddatblygu a monitro dull strategol o ddatblygu sgiliau, hyfforddiant a gyrfaoedd
- helpu i lywio ymchwil ar gyfer y dyfodol ac arwain ar ddatblygu argymhellion ar gyfer gwaith pellach.
Atebolrwydd
Ni all y Pwyllgor fod yn llwyddiannus ond os bydd sefydliadau ac unigolion yn ymrwymo i agenda gytûn ar gyfer ei waith. Bydd gan aelodau rôl gynrychiadol a bydd disgwyl iddynt sicrhau bod llif da o wybodaeth, sylwadau a datblygiadau yn cyrraedd y Pwyllgor, ac yna’r Panel drwy’r grŵp ehangach.
Adolygu
Penodir am gyfnod o 5 blynedd. Ar ôl dwy flynedd bydd y grŵp yn adolygu perthnasedd a gwerth ei waith a'r cylch gorchwyl. Bydd hyn yn cynnwys adolygiad o'r aelodaeth.
Dulliau gweithio
- bydd y Pwyllgor yn cyflenwi rhaglen waith y cytunir arni. Bydd y rhaglen waith ddrafft yn cael ei thrafod gan y Panel a'r Is-bwyllgor cyn ei mabwysiadu.
- gellir cysylltu ag aelodau rhwng cyfarfodydd os oes angen cyngor penodol
- gellir gwahodd pobl nad ydynt yn aelodau i gymryd rhan mewn cyfarfodydd penodol o’r Fforwm os bydd hynny’n briodol ar gyfer y pynciau sy'n cael eu trafod.
- dylai'r Is-bwyllgor roi gwybod i'r Panel am unrhyw anghenion ymchwil ar gyfer y dyfodol gan y bydd angen i'r Panel gael caniatâd ymlaen llaw ar gyfer unrhyw gostau a achosir.
Bydd o leiaf dri chyfarfod y flwyddyn yn cael eu cynnal mewn lleoliadau y penderfynir arnynt gan y Cadeirydd gan ymgynghori â'r Is-bwyllgor.