Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn clywed barn ffermwyr, sefydliadau a busnesau bwyd am weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol i'r DU y tu allan i’r UE.
Mae Lesley Griffiths yn mynd ar gyfres o ymweliadau â busnesau a sefydliadau yn y De sy'n debygol o gael eu heffeithio gan y ffaith bod y DU ar fin gadael yr UE.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â Phrosiect Ucheldir Cymoedd y Dwyrain ym Mlaenafon, safle prosesu Cig Coch Two Sisters ym Merthyr Tudful, a'r Ganolfan Arloesedd Bwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Bydd y diwrnod yn gorffen gyda chyfarfod traws-sector o amgylch y bwrdd ym Mae Caerdydd gyda rhanddeiliaid allweddol ym maes amaethyddiaeth a’r amgylchedd.
Ymhlith y materion sy’n debygol o gael eu codi yn ystod yr ymweliadau a’r cyfarfod yw pa mor bwysig yw hi fod busnesau yng Nghymru yn cael mynediad llawn a dilyffethair i’r Farchnad Sengl Ewropeaidd, a sut i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â mewnfudo mewn ffordd gytbwys, gan gysylltu mewnfudo â swyddi.
Disgwylir hefyd y byddant yn trafod cynnal lefel y cyllid sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan yr UE i ffermwyr yng Nghymru, a sut i barhau i warchod cymdeithas a’r amgylchedd pan na fydd hynny'n cael ei warantu mwyach drwy aelodaeth y DU o’r UE.
yna'r materion allweddol a amlinellwyd yn Diogelu Dyfodol Cymru, y Papur Gwyn ar Brexit a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Dywedodd Lesley Griffiths:

“Mae’n debyg bod cyllid a deddfwriaeth yr UE yn cael mwy o effaith ar bortffolio'r Amgylchedd a Materion Gwledig nag ar unrhyw bortffolio arall. Hefyd, mae diwydiant bwyd a diod llewyrchus Cymru yn elwa llawer ar werthu ei nwyddau yn yr UE, ac mae nifer o gwmnïau yn gallu gweithio’n effeithiol drwy gyflogi pobl o wledydd yr UE.
“’Does dim dwywaith y bydd y ffaith bod y DU yn gadael yr UE yn cael effaith fawr ar unigolion, busnesau a sefydliadau sy’n cael eu cynrychioli gan fy mhortffolio i. Ers canlyniad y refferendwm, dw i wedi bod yn awyddus i’r rheini y bydd Brexit yn cael yr effaith fwyaf arnynt gael cyfle rheolaidd i fynegi eu barn a chyflwyno eu pryderon i bobl ar y lefelau uchaf o lywodraeth.
“Drwy ein Papur Gwyn, a gafodd ei baratoi ar y cyd â Phlaid Cymru, rydyn ni wedi mynd ati i nodi'n glir yr hyn sydd, yn ein barn ni, yn fan cychwyn synhwyrol i'r trafodaethau. Rydyn ni'n credu bod ein safbwynt yn cynnig cydbwysedd rhwng ein pryderon am fewnfudo a’r realiti economaidd bod cymryd rhan lawn a dilyffethair yn y Farchnad Sengl yn ganolog i ffyniant Cymru yn y dyfodol.
“Dw i'n edrych ymlaen at gyfarfod ag amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau ac at glywed eu barn am sut gallwn ni ddarparu Brexit sy’n gweithio, nid yn unig i Gymru, ond i bob rhan o’r Deyrnas Unedig.”