Lesley Griffiths, wedi croesawu’r fargen “gref a theg” a sicrhawyd ar gyfer diwydiant pysgota Cymru yn sgil cytundeb yr UE ar gwotâu pysgod ym Mrwsel.
Cyfrannodd Ysgrifennydd y Cabinet at sicrhau’r fargen fel aelod o dîm trafod Gweinidogion y DU yng Nghyngor Pysgodfeydd yr UE ym Mrwsel a ddaeth i ben yn gynnar bore yma.
Y cytundeb o ran blaenoriaethau Cymru yw:
- Y Bysgodfa Draenogiaid Môr Fasnachol – Cadw’r hawl i ddefnyddio rhwydi dethol o fewn y bysgodfa draenogiaid môr. Roedd hyn yn dipyn o her gan mai statws stoc sy’n ymadfer sydd iddi o hyd. Fodd bynnag, trwy weithio o fewn yr amlen gynaliadwy gyffredinol, sicrhawyd cynnydd bychan yn y cwota rhwydo. Yn y cynnig gwreiddiol, nid oedd darpariaeth o gwbl ar gyfer rhwydo yn 2017.
- Y Bysgodfa Draenogiaid Môr Hamdden – Dadleuodd Ysgrifennydd y Cabinet o blaid cynyddu’r cwota i bysgotwyr hamdden. Fodd bynnag, ni allai’r Comisiwn na’r Llywyddiaeth gyfiawnhau mwy na pharhau â threfniadau 2016 – sef dal a gollwng yn 6 mis cynta’r flwyddyn ac yna derfyn o un pysgod y dydd ar gyfer gweddill y flwyddyn.
- Rhywogaethau Masnachol Bwysig – yn unol â’r wyddoniaeth, dadleuodd Ysgrifennydd y Cabinet o blaid cadw Cyfanswm y Ddalfa a Ganiateir (TAC) ar forgathod a lledod chwithig masnachol bwysig ym Môr Hafren. Y cynnig oedd lleihau’r cwota ar gyfer y ddwy. Yn y diwedd, bodlonodd y Comisiwn a’r Llywyddiaeth ar gynnydd o 5% yn y cwota morgathod a chynnydd o 7% ar gyfer Lledod Chwithig.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
“Rwy’n ddiolchgar i gynrychiolwyr y pysgodfeydd a physgotwyr hamdden am fy helpu i nodi pa stociau yng Nghymru sydd o ddiddordeb arbennig. Gan fod y diwydiant eisoes wedi cynnal mesurau cynaliadwyedd gwirfoddol ac wedi cynhyrchu tystiolaeth gymdeithasol-economaidd glir, roedd gennyf ddadleuon cadarn yn y cyfarfod â’r Llywyddiaeth a’r Comisiwn, gyda’m cyd-Weinidogion, George Eustice, Gweinidog Gwladol Defra, Fergus Ewing MSP, Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymuned Wledig a Chysylltedd, Llywodraeth yr Alban a Michell McIlveen MLA, Gweinidog Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llywodraeth Gogledd Iwerddon.
“Yn unol â’n hymrwymiadau i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, fy mlaenoriaeth oedd diogelu stociau pysgod ond gan sicrhau hefyd ganlyniad positif i’r cymunedau arfordirol sydd â’u heconomïau’n dibynnu gymaint ar y môr. Mae angen pysgota ar lefel gynaliadwy gan ddefnyddio’r cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael.
“Nid ar chwarae bach y cadwyd y ddysgl hon yn wastad yn y trafodaethau. Ar y cyfan, rwy’n credu inni daro ar fargen deg a chryf rhwng diogelu buddiannau economaidd pysgotwyr bychain a physgotwyr hamdden ar y naill law a datblygu’r stoc i bwynt lle gallwn ei physgota’n gynaliadwy at y dyfodol ar y llall.”