Heddiw, bydd Lesley Griffiths yn croesawu gweinidogion sy’n gyfrifol am amaethyddiaeth, bwyd, pysgodfeydd, iechyd anifeiliaid, iechyd planhigion ac adnoddau naturiol ym mhob un o rannau y DU.
Bydd y cyfarfod ym Mae Caerdydd yn creu cyfle i drafod y broses o adael yr UE a phennu meysydd o ddiddordeb cyffredin er mwyn cyfrannu at y gwaith o atgyfnerthu sefyllfa negodi’r DU.
Mae’r fframwaith deddfwriaeth sydd gan yr UE ar hyn o bryd wedi dod â manteision sylweddol i adnoddau naturiol Cymru, gan amrywio o safonau i ddiogelu iechyd pobl, mynd i’r afael â lefelau llygredd, diogelu’r amgylchedd naturiol a hyrwyddo defnydd mwy cyfrifol o’n hadnoddau naturiol.
Mae’r gwaith y mae Cymru wedi’i wneud eisoes drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd yn sylfaen gref ar gyfer dyfodol Cymru yn y meysydd hyn. Mae’r ddwy’n seiliedig ar gytundebau a luniwyd gan y Cenhedloedd Unedig ac maent yn cyd-fynd â chyfeiriad yr UE yn hyn o beth.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet Secretary:
“Dw i’n falch o gael cynnal y cyfarfod pwysig hwn yng Nghaerdydd. Gobeithio mai dyma’r cyntaf o blith nifer o gyfarfodydd buddiol wrth inni fynd ati ar y cyd i ystyried goblygiadau refferendwm yr UE i’n meysydd cyfrifoldeb ni.
“Mae amaethyddiaeth, yr amgylchedd a physgodfeydd yn faterion sydd wedi’u datganoli’n llawn felly wrth inni droi ein golygon at y sefyllfa ar ôl Brexit, mater i’r gweinyddiaethau datganoledig unigol fydd penderfynu sut bydd polisïau yn y meysydd hynny’n datblygu yn y dyfodol.
“Ers datganoli, rydym wedi gweld gwahaniaethau mawr o ran polisi a deddfwriaeth rhwng gwledydd gwahanol y DU. Fodd bynnag, mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio yn awr i nodi’r meysydd hynny lle mae gennym amcanion cyffredin, a hynny er mwyn llywio trafodaethau ar lefel y DU a sicrhau bod y sefyllfa ehangach ar draws y DU a’r setliad datganoli yn cael eu hadlewyrchu’n llawn yn ystod y broses.”
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru’n glir yn ystod cyfarfod diweddar y
Cyd-bwyllgor Gweinidogion, rydyn ni’n ymrwymedig i sicrhau’r fargen orau i Gymru, a byddwn ni’n canolbwyntio heddiw ar sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd a chyda’n rhanddeiliaid, a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd yn y dyfodol.”