Bydd ymwelwyr a chymunedau lleol yn gallu mwynhau mwy o’n tiroedd agored, diolch i dros hanner miliwn o bunnau o grant i hwyluso mynediad. Dyna gyhoeddiad Lesley Griffiths, heddiw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo cyfanswm o £532,000 ar gyfer 2016/17 i hwyluso mynediad yn ein tri Pharc Cenedlaethol eiconig a’n pedair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Meddai Lesley Griffiths:
“Mae’n bleser mawr gen i gadarnhau fy mod yn neilltuo dros hanner miliwn o bunnau ar gyfer hwyluso mynediad yn ein tiroedd naturiol unigryw ysbrydoledig. Dim ond wythnos sy’ wedi mynd heibio ers i’r Lonely Planet gyhoeddi mai’r Gogledd oedd y rhanbarth pedwerydd gorau yn y byd i ymweld ag ef yn 2017 a Phenrhyn Gŵyr, wrth gwrs, oedd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn profi hynodrwydd awyr agored Cymru ac rydyn am i hyd yn fwy o bobl fentro iddo a’i fwynhau.”
Ymhlith y prosiectau fydd ar y gweill ym Mannau Brycheiniog yw’r cynlluniau i wella’r ffordd i Lyn y Fan Fach a’r cyfleusterau yno, a gwella’r mesurau rheoli ymwelwyr a thraffig ym Mhontneddfechan yn ardal hyfryd y sgydau. Cafodd y Parc arian y llynedd gan Lywodraeth Cymru i drwsio’r niwed a wnaed gan gerbydau oddi ar y ffordd.
Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn defnyddio’r grant i ddatblygu rhan olaf taith gylchol yr Wyddfa a gwella maes parcio Cwellyn a llwybr Watcin i’r Wyddfa.
Cafodd arian ei neilltuo eisoes i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i wella’r llwybr arfordirol mawr ei fri. Eleni, byddan nhw’n canolbwyntio ar wella’r cyfleusterau i ymwelwyr trwy ailddylunio meysydd parcio a gwella arwyneb a llif y traffig ac ychwanegu byrddau gwybodaeth ynddynt.
Ar ran Parciau Cenedlaethol Cymru, dywedodd John Cook, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:
“Mae’r arian y mae Llywodraeth Cymru wedi’i neilltuo wedi helpu pob un o Barciau Cenedlaethol Cymru i hwyluso mynediad yn eu hardaloedd. Mae’r gwelliannau pwysig hyn wedi creu rhagor o gyfleoedd i hyd yn oed fwy o bobl ddod i adnabod tirweddau neilltuol Cymru yn ystod y Flwyddyn Antur a thu hwnt, a hynny gan sicrhau bod rhinweddau arbennig y mannau gwerthfawr hyn yn cael eu diogelu er lles cenedlaethau’r dyfodol.
“Bydd peth o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan awdurdodau’r parciau yn gwneud rhai o’u hatyniadau mwyaf eiconig, fel Taith Gylchol Eryri a Llwybr yr Arfordir yn fwy hygyrch i bawb, o’r cerddwr profiadol i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a theuluoedd â bygis. A bydd gweithio ar safleoedd fel Llyn y Fan Fach yn lleihau effaith ymwelwyr ar gymunedau lleol.”
Hefyd, mae’r arian hwn ar gyfer hwyluso mynediad yn cael ei neilltuo am y tro cyntaf i’n Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Bydd y grant yn caniatáu iddyn nhw greu cyfleoedd i bobl o bob gallu i fwynhau’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig.
Meddai Howard Sutcliffe o AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy:
“Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r AHNE gael arian gan Lywodraeth Cymru i hwyluso mynediad. Rydyn ni’n falch iawn o’i gael gan ei fod yn rhoi cyfle rhagorol inni wneud gwaith i annog pobl fentro allan a dod i adnabod y tirweddau cenedlaethol a diwylliannol pwysig hyn, a hynny mewn da bryd i baratoi ar gyfer Blwyddyn y Chwedlau. Bydd y gwaith yn cynnwys gwella a chreu llwybrau i bobl â galluoedd cyfyngedig i fwynhau ein Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.”