Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi benthyciad gwerth dros £3.5 miliwn ar gyfer cynllun ynni gwynt elusen ynni cymunedol, sy’n eiddo i bobl leol.
Bydd Elusen Ynni Cymunedol Awel Aman Tawe yn Abertawe yn elwa ar hyd at £3.55 miliwn. Bydd hynny’n galluogi’r gwaith o ddatblygu fferm wynt Mynydd y Gwrhyd i fynd rhagddo. Bydd yr arian yn helpu’r prosiect i gwrdd â therfyn amser pwysig er mwyn sicrhau ei fod yn cael lefel uwch o incwm drwy’r Tariff Cyflenwi Trydan, sef y taliad a roddir i aelwydydd neu fusnesau sy’n cynhyrchu eu trydan eu hunain gan ddefnyddio adnoddau adnewyddadwy.
Ers peth amser bellach, mae Awel Aman Tawe (AAT) wedi bod yn datblygu fferm wynt 2-dyrbin 4.7MW i’r gogledd o Bontardawe. Mae’r prosiect wedi cael cymorth gan raglen Ynni’r Fro, Llywodraeth Cymru er 2010, ac yna gan ei olynydd, y Gwasanaeth Ynni Lleol (dolen allanol).
Y llynedd, gwnaeth Llywodraeth y DU gyflwyno newidiadau i Dariff Cyflenwi Trydan (FiT), gan ostwng y cyfraddau a delir. Golyga hynny ei bod yn llai atyniadol i gynhyrchwyr llai o faint gynhyrchu eu ynni eu hunain. Fodd bynnag, os yw prosiect wedi cofrestru o flaen llawn ar gyfer FiT, bydd lefel benodol o enillion yn cael ei gwarantu os yw’n gysylltiedig â’r grid ynni ac os yw’n weithredol erbyn 29 Mawrth 2017.
Bydd yr arian a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw, ynghyd â dros filiwn o bunnoedd a godwyd gan y grŵp, yn galluogi Awel Aman Tawe i dalu am dyrbin gwynt. Bydd hefyd o gymorth i Fynydd y Gwrhyd gwrdd â’r terfyn amser pwysig hwn.
Wrth ymweld â safle fferm wynt Mynydd y Gwrhyd heddiw, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogwr brwd o gynlluniau lleol i gynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol. Mae cynlluniau o’r fath yn rhoi ynni glân inni ac yn sicrhau swyddi gwerthfawr. Mae hefyd yn sicrhau bod pobl leol yn meithrin arbenigedd mewn arwain datblygiadau lleol. Maent hefyd o gymorth i greu gwir ymdeimlad o gydlyniad cymunedol gan fynd i’r afael a’r newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd.
“Mae’n bleser gen i gadarnhau heddiw bod Elusen Cymunedol Awel Aman Tawe yn cael benthyciad gwerth dros £3.5 miliwn. Bydd yr arian hwn yn caniatáu i ynni adnewyddadwy barhau i gael ei gynhyrchu yng Nghwm Tawe a bydd yr incwm a ddaw yn ei sgil o gymorth i Awel Aman Tawe gydweithio gyda phobl yn lleol ar brosiectau. Bydd manteision y prosiectau hynny’n amlwg am flynyddoedd lawer.”
Yn dilyn ei hymweliad â Mynydd y Gwrhyd, aeth yr Ysgrifennydd Cabinet i weld Prosiect Ynni Gwynt Pen y Cymoedd. Pan fydd y prosiect hwnnw wedi’i gwblhau, dyna fydd datblygiad ynni gwynt mwyaf Cymru.