Mae hyn yn seiliedig ar adroddiad annibynnol yr Athro John Furlong, a ddaeth i'r casgliad bod angen diwygio hyfforddiant athrawon er mwyn codi safonau.
Wrth siarad ag Aelodau'r Cynulliad yn y Senedd, dywedodd y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar y ffordd y caiff rhaglenni addysg hyfforddiant cychwynnol athrawon eu cymeradwyo a'u hachredu.
Mae hyn yn seiliedig ar adroddiad annibynnol yr Athro John Furlong, a ddaeth i'r casgliad bod angen diwygio hyfforddiant athrawon er mwyn codi safonau.
Mae'r achrediad diwygiedig yn cynnwys:
- Rôl gynyddol i ysgolion;
- Rôl gliriach i brifysgolion;
- Cyd-berchnogaeth o'r rhaglen addysg gychwynnol athrawon;
- Cyfleoedd strwythuredig i gysylltu dysgu mewn ysgolion a phrifysgolion;
- Ymchwil fel elfen ganolog;
Bydd y newidiadau arfaethedig hefyd yn golygu bod Cyngor y Gweithlu Addysg yn chwarae mwy o ran yn y broses.
Dywedodd Kirsty Williams:
"Mae angen i'n system addysg gychwynnol athrawon newid i wneud yn siŵr ei bod yn cynnig sgiliau a gwybodaeth i'n darpar athrawon i'n helpu i godi safonau i bawb.
"Byddwn yn ymgynghori ar amrywiaeth o newidiadau i hyfforddiant athrawon i'n helpu i gyflawni hyn. Mae'n rhaid i ni gymell, cydnabod a hyrwyddo rhagoriaeth addysgu fel ein bod yn codi safonau yn gyffredinol. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid i athrawon gael cefnogaeth i wneud eu gorau, ac mae hynny'n dechrau gydag addysg gychwynnol athrawon ac yn parhau drwy gydol gyrfa athro.
"Rwy'n benderfynol na all y newid hwn aros. Bydd y rhaglenni newydd ar gyfer addysg gychwynnol athrawon yn cael eu hachredu a'u marchnata i ddarpar fyfyrwyr o haf 2018 ymlaen, ond rwy'n disgwyl gweld cynnydd sylweddol nawr.
"Rydw i am weld y bartneriaeth rhwng ysgolion a phrifysgolion yn datblygu. Rydw i am weld prifysgolion yng Nghymru yn cydweithio â'i gilydd yn ogystal â chydweithio ar lefel ehangach. Mae angen i ni greu system o hunan-wella o fewn y proffesiwn, lle mae pobl yn gweithio er mwyn gwella eu hunain a gwella pobl eraill.
"Rwy'n falch iawn y bydd yr Athro Furlong yn parhau i rannu ei wybodaeth a'i arbenigedd â ni. Byddaf yn ymweld â Phrifysgolion Cymru gyda'r Athro Furlong i weld ac i glywed pa gynnydd sydd wedi'i wneud ac i ddeall sut y maen nhw'n datblygu eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol eu darpariaeth.
"Rydw i am i addysg gychwynnol athrawon fod o'r ansawdd gorau, yn wir o'r radd flaenaf, a dyna pam fy mod wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau'r newid sydd ei angen, ac i wneud hynny'n gyflym"