Mae modd i Gymru arwain y ffordd a denu menywod i swyddi mewn diwydiant, yn ôl Eluned Morgan
Dyna oedd neges Eluned Morgan, Gweinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru mewn digwyddiad yn Valero Purfa Sir Benfro – Cwmni ynni byd eang yn Sir Benfro, sy’n mynd o’i ffordd i ddenu mwy o fenywod i’r diwydiant.
Wrth siarad yn rownd derfynol cystadleuaeth i glybiau peirianneg ysgolion eilradd, sy’n cael ei chynnal gan y cwmni yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, dywedodd y Gweinidog:
“Yn 2016, daeth yr adroddiad ‘Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus’ i’r casgliad mai dim ond 20% o fenywod sy’n raddedigion mewn gwyddoniaeth oedd yn mynd ati i gael gyrfa yn y maes STEM, o’i gymharu â 44% o ddynion.
“Mae’r diffyg menywod yn y maes hwn yn fater o bwys. Mae’n lleihau cyfle’r unigolyn mewn bywyd. Mae peryg iddynt golli’r cyfle am swydd sy’n talu’n dda ac yn rhoi boddhad.
“Yn fwy na hynny, fodd bynnag, mae’n cyfyngu ar y dalent sydd ar gael i’n diwydiannau gwyddoniaeth ac i fusnesau yma yng Nghymru. Mae peryg iddo wedyn gyfyngu ar ein ffyniant economaidd ehangach a’n lles cymdeithasol. O’i roi’n blaen, os bydd hyn yn parhau, bydd Cymru yn cael ei gadael ar ôl.
“Rydym eisoes, fel Llywodraeth, wedi edrych ar y rhaglenni sy’n cael eu hariannu gennym, a’r polisïau cysylltiedig, i sicrhau bod merched, yn benodol, yn ymwybodol o’r hyn sy’n bosib ei gyflawni drwy’r pynciau hyn. Mae swyddi gwych i'w cael ar ôl astudio pwnc STEM.
“Yn ehangach na hynny, rhaid i ni annog a hybu ffordd newydd o feddwl o ran y pynciau hyn. Rhaid annog pobl i ddeall sut y mae peirianneg yn effeithio ar ein bywyd bob dydd ni.
“Mae Valero, drwy gynnal y gystadleuaeth heddiw, yn dangos yn glir sut i fynd i’r afael â’r mater hwn, a hynny drwy fynd yn syth at wraidd y broblem. Mae hyn yn amlwg hefyd o'r mentrau a’r rhaglenni amrywiol sy’n cael eu cynnal ganddynt. Maent wedi gwneud cymaint o waith yn dangos i’n pobl ifanc pa fath o gyfleodd helaeth a gyrfaoedd y gellid ei ddisgwyl ar ôl astudio pynciau STEM.
“Rwyf yn hynod benderfynol y bydd modd i ni wneud rhywbeth am y sefyllfa, ond er mwyn gwneud hynny, rhaid i ni i gyd ganolbwyntio ar wneud ymdrech ledled Cymru, yn ysgolion, ymhlith cyflogwyr, mewn diwydiant ac, wrth gwrs fel Llywodraeth. Dros y misoedd nesaf, byddaf yn bwrw ati i nodi camau gweithredu y gellid eu cymryd i fynd i’r afael â’r sefyllfa hon.”