Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi canmol y ffordd mae Ysgol Feithrin Tremorfa wedi codi safonau drwy weithio gyda rhieni, teuluoedd a’r gymuned yn ehangach.
Mae cynllun gwasanaethau integredig wedi bod yn ei le yn yr ysgol ers 10 mlynedd ac mae’r ddarpariaeth yn cynnwys grwpiau i blant bach, grwpiau babanod, caffi a gweithdai i’r rhieni.
Mae hyn oll wedi helpu i ennyn diddordeb y rhieni a’u grymuso. Mae’r plant a gymerodd ran yn y gweithgareddau a gynhaliwyd ar eu cyfer cyn dechrau yn yr ysgol feithrin wedi’u paratoi yn well i ddechrau yn yr ysgol feithrin ac i fynd ymlaen i gyflawni’n well.
Yn dilyn astudiaeth achos Ewropeaidd a gynhaliwyd yn ddiweddar (a drefnwyd gan Asiantaeth Ewropeaidd ar gyfer Cynhwysiant ac Anghenion Addysgol Arbennig), cafodd y feithrinfa ei dewis yn destun astudiaeth achos ar gynhwysiant ac ymgysylltu. Treuliodd ymarferwyr o ledled Ewrop nifer o ddiwrnodau yn dysgu am y system addysg yng Nghymru a’r arferion gwych yn Nhremorfa.
Gan siarad yn yr ysgol ddydd Mawrth (12 Gorffennaf), pwysleisiodd Kirsty Williams bwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned a theuluoedd wrth godi cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc yng Nghymru:
“Ar adeg o newid mawr, mae rhoi i bob plentyn addysg o’r radd flaenaf yn golygu bod angen i bob un ohonon ni wneud mwy. Rydyn ni i gyd - yn athrawon, yn fyfyrwyr, yn rhieni, yn wleidyddion etholedig ac yn arweinwyr cymunedol - yn atebol am lwyddiant ein plant.
“Mae mwy i addysgu a dysgu na’r hyn o welir yn yr ystafell ddosbarth. Rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i helpu rhagor o blant a rhaid i ni wneud hynny mewn mwy o ffyrdd ac yn fwy effeithiol.
“Mae dymuniadau llywodraeth a phryderon y proffesiwn i’w clywed yn aml wrth i ni ddadlau’n gyhoeddus am ein system addysg, ond rydw i am glywed gan gynifer o rieni a phlant ag sy’n bosibl gan fod eu pryderon yn ganolog i’m hagenda.
“Hoffwn weld yr holl ganolfannau dysgu yn ymgysylltu â rhieni, beth bynnag yw eu cefndir, er mwyn hybu addysg eu plant. Rydw i am harneisio dyheadau rhieni yn ogystal â dyheadau eu plant.”