Heddiw cadarnhaodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, y bydd myfyrwyr o Gymru yn cael swm sydd werth yr un faint â'r Cyflog Byw Cenedlaethol tra byddant yn astudio. (Dydd Mawrth 11 Gorffennaf).
O 2018/19 ymlaen, Cymru fydd y wlad gyntaf yn Ewrop i gyflwyno cymorth cynhaliaeth cyfwerth ar gyfer israddedigion llawn amser a rhan-amser, yn ogystal â myfyrwyr graddedig.
Yn ôl amcangyfrifon y Llywodraeth, bydd traean o fyfyrwyr llawn amser yn cael y lefel uchaf o grant, sef £8,100 ar gyfer myfyriwr sy'n byw oddi cartref.
Incwm cyfartalog aelwyd myfyriwr yn y system bresennol yw oddeutu £25,000. O dan y system newydd, bydd myfyriwr o'r fath yn cael tua £7,000 y flwyddyn ar ffurf grant nad oes raid ei ad-dalu.
Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cael yr un faint o gymorth ar gyfer costau cynhaliaeth ar sail pro-rata. Caiff myfyrwyr gymysgedd o grantiau a benthyciadau sy'n werth yr un faint â'r Cyflog Byw Cenedlaethol.
Wrth annerch yn siambr y Cynulliad, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Addysg hefyd y byddai'r polisi a oedd ar waith cyn 2012, sef uchafswm ffi dysgu sy'n gysylltiedig â chwyddiant, yn cael ei ailgyflwyno yn 2018/19. Bydd y polisi hwn yn ei le ar gyfer y tair blwyddyn academaidd nesaf. Daw hyn yn sgil cadarnhad Prifysgolion Cymru y bydd pob prifysgol yng Nghymru’n dod yn gyflogwyr Cyflog Byw. Maent hefyd wedi cadarnhau y byddant yn llofnodi Cod Ymarfer ar Gaffael Moesegol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Kirsty Williams:
"Cydnabyddir yn eang erbyn hyn mai costau byw uchel yw'r rhwystr mwyaf ar gyfer astudio mewn prifysgol. Mae ein system newydd flaengar yn cyflwyno newid sylfaenol i'r modd rydym yn cefnogi myfyrwyr a'n sefydliadau.
"Bydd buddsoddi yn llwyddiant myfyrwyr llawn amser, myfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr graddedig yn golygu mai Cymru fydd yr unig wlad yn Ewrop i gymryd y cam mawr hwn ymlaen.
"Ar ôl cadarnhau y bydd myfyrwyr yn cael cymorth sydd werth yr un faint â'r Cyflog Byw Cenedlaethol, rwy'n croesawu cyhoeddiad Prifysgolion Cymru y bydd pob prifysgol yng Nghymru yn dod yn gyflogwyr cyflog byw. Gallwn fod yn falch iawn mai sector Cymru fydd y cyntaf yn y DU i gyflawni hyn.”
Wrth sôn am lefelau ffioedd, dywedodd Kirsty Williams:
"Mae addysg uwch yng Nghymru yn gweithredu mewn cyd-destun DU gyfan a rhyngwladol. Rydym yn arwain y ffordd wrth newid ein trefniadau i helpu gyda chostau byw. Ond mae polisi Lloegr hefyd yn cael effaith uniongyrchol ar Gymru.
Mae angen sector addysg uwch sefydlog a chynaliadwy ar Gymru sy'n cyflawni ar gyfer ein cymunedau a'r economi. Rhaid bod ein prifysgolion yn gallu cystadlu gartref ac yn rhyngwladol. Mae swyddi, ffyniant a llesiant cenedlaethol yn dibynnu ar hyn.
"Byddwn yn mynd i'r afael â'r gostyngiad mewn termau real yng ngwerth ffioedd dysgu drwy eu cysylltu â chwyddiant unwaith eto yn y tair blynedd nesaf. Gallaf gadarnhau y byddant yn parhau i gael eu talu drwy system fenthyciadau a gefnogir yn gyhoeddus, ac y bydd ond yn rhaid eu had-dalu ar ôl graddio ar sail lefel incwm."
Wrth fynd ati i adolygu'r system bresennol, argymhellodd Adroddiad Diamond y dylid symud i gymorth cynhaliaeth. Dywedodd:
“Ceir consensws cryf, yn enwedig ymysg myfyrwyr, cyrff sy’n cynrychioli myfyrwyr, staff cymorth a gweithwyr proffesiynol ehangu cyfranogiad, bod lefel y cymorth cynhaliaeth sydd ar gael yn annigonol i dalu’r costau gwirioneddol sy’n cael eu hysgwyddo gan fyfyrwyr, a bod y mater hwn yn bwysicach i fyfyrwyr na lefel y ffioedd dysgu a’r cymorth ffioedd dysgu. Hefyd, ceir teimlad nad yw’r trefniadau presennol yn darparu’n ddigonol ar gyfer myfyrwyr o aelwydydd incwm canolig yn benodol.”