Cyhoeddwyd bod 24 o weithwyr addysg proffesiynol o Gymru wedi cyrraedd rownd derfynol y gwobrau cenedlaethol
Cyhoeddwyd heddiw (12 Ebrill 2018) fod 24 o weithwyr addysg proffesiynol ledled Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol ail Wobrau Addysgu Proffesiynol Cymru.
Crëwyd y gwobrau i ddathlu ymrwymiad, ymroddiad a gwaith caled athrawon ledled Cymru. Cafwyd enwebiadau gan rieni, myfyrwyr, cydweithwyr a chyflogwyr.
Bydd enillwyr pob un o’r naw categori sy'n cynnwys Cefnogi Athrawon a Dysgwyr a’r Defnydd Gorau o Ddysgu Digidol yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yng Nghastell Hensol ym mis Mai.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams:
“Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol. Mae codi statws y proffesiwn addysgu yng Nghymru yn rhan annatod o hyn.
“Dyna pam ei bod hi mor bwysig i ni gydnabod y rhagoriaeth a welwn ni yn ein hysgolion bob dydd, ar hyd a lled y wlad.
“Roedd safon yr enwebiadau a gawsom ni eleni ar gyfer Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn hollol wych.
“Mae’r rheini ar y rhestr fer yn glod i’r proffesiwn. Fe ddylai pob un ohonynt fod yn falch iawn o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni ac rydw i’n edrych ymlaen yn arw at eu gweld nhw i gyd fis Mai i ddathlu eu gwaith caled”.
I fod y cyntaf i glywed pwy sy’n fuddugol ddydd Sul 13 Mai gwyliwch Facebook yn fyw ac ewch i llyw.cymru a chadw llygad ar sianeli cymdeithasol @LlC_Addysg
Ymunwch â’r sgwrs gyda #GwobrauAddysguCymru
Rhestr Fer Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2018
Cefnogi Athrawon a Dysgwyr
Jackie Marshall, Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Caerfyrddin
Ann Garner, Ysgol Bryn Elian, Hen Golwyn
Adam Griffiths, Ysgol Uwchradd Penydre, Merthyr Tudful
Rheolwr Busnes Ysgol/Bwrsar
Brian Crossland, Ysgol Bryn Elian, Hen Golwyn
Helen Avery, Ysgol Gynradd Cornist Park, y Fflint
Jon Caple, Ysgol Uwchradd yr Esgob Hedley, Merthyr Tudful
Hybu Cydweithio i Wella Cyfleoedd Dysgu
I'w Gyhoeddi yn y Seremoni
Hyrwyddo Lles Disgyblion, Cynhwysiant a Pherthynas â’r Gymuned
Louise Morgan, Canolfan y Gors, Caerfyrddin
Tîm yr Adran Cynhwysiant, Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff, Casnewydd
Ysgol Gynradd Gymunedol Priordy Monkton, Penfro
Athro y Flwyddyn
Carol Hesden, Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili, Caerffili
Hannah Hopkins, Ysgol Gyfun Pontarddulais
Lorraine Dalton, Ysgol Esgob Morgan, Llanelwy
Pennaeth y Flwyddyn
Meryl Echeverry, Ysgol Gynradd Monnow, Casnewydd
Eleanor Jarrold, Ysgol Gynradd Maes Y Coed, Pontypridd
Janet Waldron, Ysgol Gyfun Pontarddulais
Athro Newydd Eithriadol
Hollie Sinclair, Ysgol Uwchradd Caerllion, Casnewydd
Helen Jones, Ysgol Uwchradd y Fflint
Natasha Williams, Ysgol Bryn Elian, Hen Golwyn
Defnydd gorau o ddysgu digidol
Dylan Lewis, Ysgol Gyfun Pontarddulais
Ysgol Bro Lleu, Caernarfon
Ysgol O.M. Edwards, y Bala
Defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd sy’n ysbrydoli
Jordan Tobin, Ysgol Gyfun Dwr y Felin, Castell-nedd
Sarah Mansfield, Ysgol Gynradd Gatholig Sant Francis, Aberdaugleddau
Gwenan Elis Jones, Adran Addysg Cyngor Gwynedd