Heddiw, aeth Kirsty Williams i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yn Llandrindod i weld yr effaith y mae eu clwb cinio haf yn ei chael ar blant yr ardal.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd dros Addysg hanner miliwn o bunnoedd i helpu i dalu am glybiau Bwyd a Hwyl mewn ysgolion penodol yn ystod gwyliau'r haf.
Nod y rhaglen yw cyfoethogi profiad gwyliau'r haf i blant mewn ardaloedd difreintiedig iawn. Bydd nifer o ysgolion yn yr ardaloedd hyn yn darparu prydau am ddim, yn ogystal ag ystod eang o addysg am fwyd, ymarfer corff a sesiynau difyr eraill yn ystod seibiant yr haf.
Mae staff a gwirfoddolwyr yr ysgol yn Llandrindod yn darparu clwb ar gyfer plant yr ardal am dridiau'r wythnos yn ystod y gwyliau ac roedd yr Ysgrifennydd dros Addysg yn achub ar y cyfle i ganmol eu hymdrechion.
Dywedodd Kirsty Williams:
"Mae'n ffaith drist fod gwyliau'r haf yn gallu bod yn amser anodd i rai o'n pobl ifanc. Mae plant sy'n elwa ar frecwast a chinio am ddim yn aml yn methu prydau ac yn teimlo'n llwglyd unwaith y bydd eu hysgolion yn cau am y gwyliau. Hefyd, mae'r diffyg cyfleoedd i gymdeithasu ac i chwarae gemau tîm yn gallu cael effaith andwyol ar y rhai sy'n dod o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig.
"Mae'r hyn rydw i wedi'i weld heddiw wedi fy nghalonogi'n fawr a hoffwn longyfarch pawb sy'n rhan ohono am y profiad cyfoethog sy'n cael ei gynnig. Er bod y cynllun yn cynnig brecwast a chinio iach am ddim, sy'n mynd i'r afael â bod eisiau bwyd yn ystod y gwyliau, roeddwn yn arbennig o falch o weld y gweithgareddau addysgol hwyliog a difyr sydd ar gael. Gall y rhain gyfrannu'n sylweddol at wella iechyd a llesiant dysgwyr."