Mae helpu rhieni i fod yn economaidd weithgar yn rhan allweddol o Gynllun Cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru
Cyn mynd i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i roi tystiolaeth yn eu hymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith, ymwelodd y Gweinidog â'r Hair Den yn y Barri, a chyfarfu â Julie Coulthard, sydd wedi cael cymorth rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE), rhaglen werth £13.5 miliwn.
Mae gan Julie bedwar o blant, 26, 19, 6 a 4 oed. Mae Julie bob amser wedi llwyddo i gydbwyso ei gwaith â gofalu am ei phlant. Ond ar ôl i'w merch ieuengaf gael ei geni, a thor-perthynas, nid oedd yn bosibl iddi weithio a dechreuodd gael budd-daliadau. Gyda chymorth ei chynghorydd PaCE, dechreuodd Julie hyfforddi mewn trin gwallt gydag ACT Training - gyrfa a oedd wedi apelio bob amser ati. Talodd PaCE am ei gofal plant a'i hyfforddiant, ac erbyn hyn, ddwy flynedd wedyn, mae hi wedi cymhwyso'n llawn ac yn gweithio 16 awr yr wythnos yn y salon.
Mae'r ffigurau yn dangos bod stori Julie ymhell o fod yn anarferol. Yng Nghymru, mae 19.1% o fenywod sy'n economaidd anweithgar yn dweud mai'r rheswm am hynny yw eu bod yn gofalu am y teulu neu'r cartref, o gymharu â 6.8% o ddynion sy'n economaidd anweithgar . Mae pris gofal plant rhan-amser i blentyn o dan ddwy oed yn dod i £116 yr wythnos yng Nghymru ar gyfartaledd - sy'n ddwbwl yr hyn y mae teuluoedd Cymru yn ei wario ar fwyd.
Mae PaCE, sydd wedi'i ariannu gan yr UE, yn cefnogi rhieni sy'n wynebu problemau o ran gofal plant sy'n eu hatal rhag manteisio ar gyfleoedd addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae gan PaCE 43 o gynghorwyr cymunedol i helpu pobl i oresgyn y rhwystrau mewn amrywiol ffyrdd fel y gallant symud tuag at gael gwaith cyson. Mae'r cynllun yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Dywedodd Eluned Morgan:
"Mae ein Cynllun Cyflogadwyedd yn cydnabod bod gwahanol bobl yn profi gwahanol rwystrau sy'n eu hatal rhag gweithio. I rieni - a mamau yn enwedig - rydyn ni'n gwybod bod oriau gwaith hyblyg neu addas yn broblem yn ogystal â chost gofal plant da, yn enwedig os nad oes ganddyn nhw'r sgiliau i ddod o hyd i waith sy'n talu digon i'w gwneud yn werth chweil.
"Mae cynghorwyr PaCE wedi bod yn effeithiol iawn wrth ddod o hyd i ddulliau o bob math i oresgyn problemau gofal plant, gan gynnwys annog cyflogwyr i ystyried cyflogi unigolion rhaglen PaCE yn rhan-amser ar sail eu hymrwymiadau gofal plant, a helpu gyda chostau gofal plant fel bod rhieni yn gallu cael hyfforddiant i fod yn fwy cyflogadwy. Ymateb fel hyn i anghenion unigolion yw'r union beth y mae'r Cynllun Cyflogadwyedd yn ei gefnogi."
Dywedodd Julie:
"Dw i wedi gweithio bob amser. Pan oeddwn i'n hawlio budd-daliadau ar ôl i 'mhlentyn ieuengaf gael ei eni, felly, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i newid y sefyllfa, ond doeddwn i ddim yn gwybod sut i 'nghael fy hun allan o'r rhigol roeddwn i ynddo. Roedd fy nghynghorydd PaCE yn gymaint o help ac mor gefnogol, ac yn hytrach na jyst dod o hyd i unrhyw swydd, fe wnaeth wir fy helpu i gael hyfforddiant i gael y swydd roeddwn i wedi eisiau ei gwneud erioed, ac oedd yn talu digon imi allu fforddio gofal plant.
"Roedd fy nau blentyn hynaf wedi fy ngweld i'n gweithio bob amser, felly dw i wir eisiau gwneud yn siwr bod y ddau ieuengaf yn gweld hynny hefyd. Mae gan y ddau hynaf swyddi da eu hunain erbyn hyn, a dw i hefyd yn helpu i ofalu am fy nau ŵyr tra mae fy merch yn y gwaith."