Mae pencadlys sefydliadau sy'n hybu Sbaeneg ac Almaeneg yng Nghymru wedi'i lansio'n swyddogol gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams heddiw (dydd Iau 21 Medi).
Bydd Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen a Swyddfeydd Goethe Institut wedi'u lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r naill sefydliad a'r llall wedi derbyn £10,000 yr un gan Lywodraeth Cymru i sefydlu eu swyddfeydd yn y ddinas.
Ym mis Rhagfyr, llofnododd yr Ysgrifennydd Addysg Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth Sbaen oedd yn cynnwys cytundeb i gefnogi, cynyddu a gwella addysgu Sbaeneg yng Nghymru.
Mae'r Goethe Institut yn hybu astudio Almaeneg dramor ac yn annog cyfnewid diwylliannol yn rhyngwladol. Yn Seremoni Wobrwyo Athrawon Almaeneg y DU yn 2017, roedd dau o'r tri athro a ddaeth i'r brig o Gymru.
Mae'r cymorth yn rhan o gynllun Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru i hybu ieithoedd tramor modern i ddisgyblion a myfyrwyr.
Dywedodd Kirsty Williams:
"Rydw i wrth fy modd yn dathlu lansio Swyddfa'r Goethe Institut a Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Rydyn ni am weld rhagor o'n disgyblion a'n dysgwyr yn cydnabod pwysigrwydd ieithoedd tramor modern ac arwyddocâd y cyfleoedd y gallant eu cynnig iddynt o ran eu bywyd a'u gyrfa. Ein nod yw gwella profiadau dysgu ac addysgu ieithoedd tramor modern yn ein hysgolion a'u gwneud yn bynciau y mae mwy yn dewis eu hastudio ar lefel TGAU, Safon Uwch ac fel pwnc prifysgol.
"Rydw i am weld ein pobl ifanc yn dod yn ddinasyddion byd-eang, yn gallu siarad â phobl mewn ieithoedd eraill a deall a gwerthfawrogi eu diwylliant eu hunain yn ogystal ag eraill."