Mae adroddiad newydd wedi nodi sut y gellir cryfhau’r system Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) yng Nghymru er mwyn iddi fod ar flaen y gad o ran arloesi rhyngwladol ac arfer gorau.
Y llynedd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, benodi’r Athro Harvey Weingarten, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Cyngor Ansawdd Addysg Uwch Ontario, i gynnal Adolygiad o’r Systemau ar gyfer Monitro a Gwella Effeithiolrwydd Addysg Ôl-orfodol yng Nghymru.
Mae’r Adolygiad, sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, yn cydnabod bod y system sydd ohoni ar gyfer monitro perfformiad yn anghyson ac yn rhoi 10 argymhelliad i wella’r system hon.
Mae’r argymhellion yn seiliedig ar asesiad mwy cynhwysfawr a chyfannol o gyfraniad sefydliadau unigol Cymru a’i system AHO gyffredinol.
Dywedodd yr Athro Weingarten:
“Wrth gynnal fy adolygiad, roedd yn eglur bod pobl o safon uchel yn system AHO Cymru. Mae hyn yn wir yn y sefydliadau, y llywodraeth a’r asiantaethau ac mae pob un yn frwdfrydig ac yn ymroddedig i addysg a myfyrwyr Cymru. Roedden nhw’n awyddus i ystyried ffyrdd o wella system AHO Cymru ac i helpu myfyrwyr a Chymru i gyflawni eu hamcanion yn fwy nag erioed.
“Byddai fy argymhellion i’n rhoi’r sail dystiolaeth i’r llywodraeth ac i sefydliadau iddynt allu penderfynu pa mor effeithiol yw’r system AHO, llywio penderfyniadau sydd eu hangen i wneud y system yn fwy effeithiol a gwneud y gorau o gyfraniad pob sefydliad a’r system gyffredinol i gyflawni amcanion pwysicaf Cymru.
“I’r perwyl hwnnw dw i’n darparu’r adroddiad terfynol hwn – gan gynnig dadansoddiad a chyfres o argymhellion i fonitro system AHO Cymru yn y ffordd orau bosibl ac i’w gwneud yn fwy effeithiol.”
Gan groesawu’r adroddiad, dywedodd Kirsty Williams:
“Mae adolygiad yr Athro Weingarten wedi bod yn werthfawr iawn wrth inni helpu i ddiwygio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru yn y tymor hirach. Mae hyn yn cynnwys yr ymgynghoriad technegol sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd ynghylch creu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd i Gymru.
“Mae’n waith ardderchog sydd wedi cael llawer o fudd o gyfraniad yr Athro Weingarten ar draws y sector yng Nghymru.
“Nawr byddwn ni’n cymryd yr amser i ystyried y 10 argymhelliad yn yr adroddiad yn ofalus, ac mae rhaid gweld y rhain yng nghyd-destun ein gwaith parhaus o ddatblygu’r systemau ar gyfer monitro a chefnogi’r system addysg ôl-orfodol yng Nghymru.”