Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, y bydd cyllid gwerth £1 miliwn ar gael i sefydlu'r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth.
Mae'r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth, sef menter ar y cyd rhwng Kirsty Williams ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, yn ddull newydd ac arloesol o gefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu doniau ym maes cerddoriaeth.
Bydd y cyfraniad cychwynnol o £1 miliwn yn cael ei roi i Gyngor Celfyddydau Cymru i dalu am gostau sefydlu'r Gwaddol, a bydd cyfraniad pellach yn cael ei wneud i'r gronfa sbarduno unwaith y bydd yn ei le. Ein huchelgais yw y bydd y gronfa yn creu o leiaf £1 miliwn y flwyddyn yn y pen draw, a fydd yn cael ei ddefnyddio i ariannu gweithgareddau cerddorol ychwanegol ar gyfer pobl ifanc ar draws y wlad.
Dywedodd Kirsty Williams,
“Bydd y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth yn helpu i sicrhau bod ein pobl ifanc i gyd, o ba gefndir bynnag y bônt, yn gallu datblygu eu doniau a'u sgiliau drwy gerddoriaeth.
“Yn ystod fy nghyfnod fel Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymweld ag ysgolion ledled Cymru, mae dawn gerddorol ein pobl ifanc, a'r ysgolion sy'n hyrwyddo'r fath gyfleoedd, wedi creu argraff fawr arnaf ac wedi fy ysbrydoli hefyd. Hoffwn adeiladu ar y llwyddiant hwn ac estyn y cyfleoedd hyn ledled Cymru.
“Mae cael profiadau y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn ffordd sicr o helpu plant i fagu hyder a chael hyd i'r hyn sy'n eu hysbrydoli nhw. Gydag amser, bydd y Gwaddol hwn yn darparu cyfleoedd ychwanegol i bobl ifanc fanteisio ar brofiadau addysgol pwysig.”
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates,
“Pe byddech yn gofyn i bobl o gwmpas y byd enwi pethau maen nhw'n eu cysylltu â Chymru, byddai eu rhestri, yn ddi-os, yn cynnwys cerddoriaeth. O'n corau traddodiadol i gerddorion sy'n perfformio ar draws y byd, mae Cymru yn gwneud yn rhyfeddol o dda. Rhaid i ni sicrhau y gall y genhedlaeth nesaf barhau i gynnal y traddodiad pwysig hwn.
“Mae'r mesurau cyni sydd wedi cael eu gosod gan Lywodraeth San Steffan wedi cael effaith wael ar wasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol. Bwriad y cyfraniad hwn o £1 miliwn yw bod yn gatalydd, a fydd yn dangos ein hymrwymiad i'r celfyddydau a'n treftadaeth gerddorol i ddarpar roddwyr.”
Ychwanegodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru,
“Mae cyfnodau heriol yn galw am weithredu'n bendant. Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc gyfoethogi eu bywydau drwy fynegiant artistig. Mae'r gronfa newydd hon yn rhoi gwahoddiad i roddwyr preifat a chorfforaethol ymuno â Llywodraeth Cymru i feithrin doniau cerddorol pobl ifanc, a'u helpu nhw i'n swyno a'n synnu i gyd.”
Dywedodd Karl Napieralla, Cadeirydd y Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Wasanaethau Cerdd a wnaeth argymhelliad i sefydlu'r gronfa,
“Rwy'n hynod falch bod un o'r argymhellion gan y Grwp Gorchwyl a Gorffen yn dwyn ffrwyth. Gobeithio bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc yn y dyfodol, o ba gefndir bynnag y bônt, i fwynhau cerddoriaeth ac ymroi iddi.”
Mae'r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth yn adeiladu ar y cynllun £20 miliwn, Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau, i gefnogi dysgu ac addysgu creadigol mewn ysgolion.
Y Gwaddol hwn yw ein dull tymor hir, cynaliadwy o gynyddu cyfleoedd cerddorol i bobl ifanc Cymru, ac nid ydym yn bwriadu disodli gwasanaethau cerddorol presennol.