Datgelodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams heddiw (ddydd Iau 17 Tachwedd) fod academi newydd wedi’i sefydlu sef Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol.
Bydd yr academi newydd yn gweithredu o hyd braich i Lywodraeth Cymru gyda’r nod o sicrhau bod yr holl arweinyddion o fewn y system addysg yng Nghymru yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth gywir i fod o fudd i ddisgyblion. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau y gall ysgolion ddarparu’r cwricwlwm newydd a gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru.
Cyn-brif arolygydd Estyn, Ann Keane, fydd yn arwain ar y gwaith cychwynnol i sefydlu’r academi a bydd yn gweithio gyda nifer o arbenigwyr sy’n cael eu parchu yn eu meysydd.
Bydd yr Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol yn canolbwyntio i ddechrau ar anghenion ein cenhedlaeth nesaf o benaethiaid, gan gynnwys
- Sicrhau bod penaethiaid wedi’u paratoi’n dda am eu rôl.
- Ystyried strwythur cymwysterau penaethiaid gan gynnwys y cymwysterau CPCP.
- Datblygu llwybrau gyrfa i’r unigolion hynny sydd am fod yn benaethiaid a chefnogi penaethiaid newydd yn ystod eu blynyddoedd cyntaf yn y rôl honno.
- Gweithio gyda phenaethiaid profiadol a llwyddiannus i helpu i greu grwp o arweinwyr all helpu i hyrwyddo arferion gorau mewn ysgolion.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Fy mlaenoriaethau yw cael yr hanfodion yn gywir – caniatáu i benaethiaid arwain ac i athrawon addysgu. Rydw i am weithio’n agos â’r proffesiwn i helpu athrawon i berfformio ar y safon orau bosib gan wella safle’r proffesiwn cyfan. Heb athrawon brwdfrydig, medrus sy’n cael eu parchu allwn ni ddim â chyflawni dim.
”Dyna pam mae’r academi yma mor bwysig. Bydd yn gyfrwng i ddatblygu doniau arweinyddol yn awr ac i’r dyfodol er lles Cymru a bydd yn sicrhau y gall pob ysgol gyflwyno ein cwricwlwm newydd.
“Fy ngweledigaeth yw cryfhau arweinyddiaeth a gwneud yn siwr bod mwy o gysondeb ar draws ein hysgolion. Bydd hyn yn golygu sicrhau bod ein hysgolion, ein hawdurdodau lleol, y consortia rhanbarthol a’n prifysgolion yn gweithio gyda’i gilydd. Mae angen y sgiliau a’r wybodaeth gywir ar benaethiaid ein hysgolion er mwyn arwain mewn byd sy’n newid fel y gallwn sicrhau bod ein disgyblion yn derbyn yr addysg orau bosibl.
“Bydd hyn yn golygu creu cyfleoedd datblygu sydd wedi’u cynllunio’n dda a dysgu gan y gorau yn y byd. Mae’n gam pwysig yn ein cenhadaeth genedlaethol o sicrhau bod ein system gyfan yn parhau ar hyd y llwybr i wella.”
Dywedodd Ann Keane:
“Rwy’n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i mi gadeirio’r Grwp Gorchwyl a Gorffen a fydd yn datblygu ei brîff i ddatblygu’r Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol. Mae’n dasg bwysig, yn arbennig felly yng nghyd-destun y newidiadau ehangach sy’n digwydd yn ein system addysg mewn perthynas â chwricwlwm yr ysgol a chymwysterau. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r grwp a hefyd â’r sector addysg i greu rhywbeth gyda’n gilydd a fydd yn hybu ac yn hyrwyddo gwella.”
Y disgwyl yw y bydd y grwp cyntaf o benaethiaid sydd eisoes yn gweithio yn y rôl honno a phenaethiaid y dyfodol yn gallu manteisio ar y rhaglenni ym mis Medi 2017.