Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi datgelu manylion cynllun peilot newydd a fydd yn helpu llawer mwy o fyfyrwyr o Gymru, waeth beth yw eu cefndir, i astudio dramor.
Daw'r cyhoeddiad ar ôl i ffigurau ddangos mai 2% yn unig o’r myfyrwyr o Gymru sydd mewn prifysgolion sy'n treulio amser dramor yn astudio, yn gwirfoddoli neu'n gwneud profiad gwaith fel rhan o'u hastudiaethau.
Mae'r cynllun, a ddatblygwyd ar y cyd â British Council Cymru, yn werth £1.3m. Bydd yn para am dair blynedd o 2018/19 ac yn cynnig cyfleoedd amrywiol i fyfyrwyr o Gymru mewn sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru. Byddant yn cynnwys cyfleoedd i astudio a gwirfoddoli ac interniaethau, sy'n amrywio o 2 i 3 wythnos i 8 wythnos.
Cynlluniwyd y cyfleoedd i ddenu myfyrwyr nad ydynt wedi ystyried treulio amser dramor oherwydd, er enghraifft, cyfrifoldebau gofalu neu gyflogaeth.
Datblygwyd y cynllun peilot fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion adolygiad Diamond ar gymorth ar gyfer myfyrwyr sy'n dewis astudio dramor.
Mewn datganiad yn y cyfarfod llawn heddi, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud:
"Ar adeg lle mae'n bwysicach nag erioed i'n myfyrwyr a'n graddedigion fod yn ddinasyddion byd-eang, mae angen i ni sicrhau bod cyfleoedd rhyngwladol yn ddyhead i lawer mwy o fyfyrwyr.
"Fel rhywun a wnaeth elwa'n fawr ar gyfle i astudio dramor fel myfyriwr israddedig, rwy'n gwybod bod profiad o'r fath yn ehangu gorwelion, yn ehangu sgiliau allweddol ac yn fodd i greu cysylltiadau sy'n para am oes.
"Mae ymchwil gan Universities UK yn nodi bod y manteision hyn yn arbennig o sylweddol i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig. Fodd bynnag, y myfyrwyr hyn sy'n aml yn colli allan ar y cyfleoedd trawsnewidiol hyn neu ddim hyd yn oed yn gwneud cais amdanynt.
"Bydd y cynllun peilot newydd hwn yn caniatáu i ni gyrraedd y myfyrwyr hyn a sicrhau eu bod nhw hefyd yn gallu manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn.
"Rwyf eisiau gweld nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n treulio amser dramor fel rhan o'u hastudiaethau yn dyblu erbyn diwedd y llywodraeth hon. Mae'r cynllun hwn yn un o'r ffyrdd rydym yn ceisio cyflawni'r nod hwn."