Kirsty Williams wedi cyhoeddi y bydd wyth deg o athrawon newydd ar gael i helpu ysgolion ledled Cymru i leihau maint dosbarthiadau babanod, diolch i gronfa gwerth £36 miliwn.
Bydd yr athrawon newydd yn cael eu penodi i ysgolion sydd â dosbarthiadau babanod mawr ynghyd â lefelau uchel o amddifadedd, anghenion addysgol arbennig a/neu lle mae angen gwella'r addysgu a'r dysgu.
Bydd yr athrawon newydd yn golygu bod modd creu dosbarthiadau babanod sy'n llai mewn nifer, fel bod ysgol sydd â dau ddosbarth babanod â 29 neu ragor o ddisgyblion yn gallu cael tri dosbarth babanod llai a haws eu trin.
Bydd hyn yn golygu y bydd gan athrawon fwy o amser i'w dreulio â'u disgyblion ac yn gwella ansawdd yr amser hwnnw, a bydd yn helpu i leihau baich gwaith athrawon ar yr un pryd.
Mae'r gronfa o £36 miliwn yn cynnwys £16 miliwn o refeniw sy'n galluogi awdurdodau lleol i recriwtio'r athrawon ychwanegol, a £20 miliwn o gyfalaf sy'n galluogi awdurdodau lleol i adeiladu'r ystafelloedd dosbarth a’r mannau dysgu ychwanegol y bydd eu hangen i leihau maint dosbarthiadau ymhellach.
Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn elwa ar athrawon ychwanegol ar ôl cyflwyno ceisiadau am elfen refeniw'r grant, sy'n £1.3 miliwn ar gyfer 2017/18. Bydd ceisiadau ar gyfer elfen gyfalaf y grant yn cael eu cymeradwyo cyn bo hir.
Ddoe, cafodd yr Ysgrifennydd Addysg gyfle i ymweld â phlant yn nosbarth meithrin Ysgol Gynradd Awel y Môr yng Nghastell-nedd Port Talbot. O fis Medi eleni ymlaen, pan fyddant yn symud i'r dosbarth derbyn, bydd y plant yn elwa ar athro neu athrawes ychwanegol.
Mae Ysgol Gynradd Awel y Môr yn ymgeisydd da ar gyfer y grant, gyda niferoedd uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu ag anghenion addysgol arbennig.
Dywedodd Kirsty Williams:
"Dro ar ôl tro, mae athrawon a rhieni'n dweud wrthyf fod maint dosbarthiadau'n achos pryder. Dyna pam mai cyhoeddi'r gronfa £36 miliwn hon oedd un o'r pethau cyntaf a wnes i fel Ysgrifennydd Cabinet.
“Dengys tystiolaeth ac ymchwil ryngwladol fod cysylltiad cadarnhaol rhwng dosbarthiadau llai o faint a chyrhaeddiad, yn enwedig ar gyfer y disgyblion ieuengaf o gefndiroedd tlotach.
"Bydd athrawon ychwanegol mewn ysgolion fel Awel y Môr yn gallu rhoi mwy o amser ac o sylw unigol i bob un o'u disgyblion.
"Mae hynny'n newydd da, nid yn unig i'r disgybl a'r athro neu athrawes ond hefyd i allu'r ysgol gyfan i wella; mae dosbarthiadau llai yn hanfodol i wella cyrhaeddiad ym mlynyddoedd cynnar addysg plentyn ac i helpu athrawon i reoli eu baich gwaith.
"Wrth edrych ar y fenter hon yng nghyd-destun y diwygiadau ehangach rydym yn eu gwneud, fel chwynnu biwrocratiaeth ddiangen a chryfhau hyfforddiant cychwynnol athrawon a'u cyfleoedd ar gyfer datblygu proffesiynol, bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran rhoi amser i athrawon addysgu a lle i ddysgwyr gael dysgu.
“Mae hyn yn rhan annatod o'n cenhadaeth i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol.
Dywedodd Sam Greasley, Pennaeth Ysgol Gynradd Awel y Môr:
"Bydd y gronfa newydd hon yn cael effaith bendant ar Safonau Disgyblion. Mae sicrhau bod dosbarthiadau'n llai yn ein galluogi ni fel athrawon i weithio'n fwy clòs gyda phlant unigol.
"Rydyn ni'n gosod disgwyliadau uchel ar gyfer pob disgybl, ond rydyn ni'n cydnabod bod angen gwahanol lefelau o help arnynt, ac mae'n haws darparu hynny mewn dosbarthiadau llai."