Mae Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, wedi ymweld â chwmni sydd â phrentis llwyddiannus iawn yn gweithio iddo. Bu’n llongyfarch y prentis ar ei lwyddiannau.
Caiff Ethan Davies ei gyflogi gan Electroimpact UK Ltd, cwmni sydd ar flaen y gad ledled y byd ym maes dylunio a gweithgynhyrchu offer ac awtomatiaeth awyrofod.
Mae Ethan yn brentis uwch ac enillodd y fedal aur yng nghategori melino dan reolaeth cyfrifiadur yng nghystadleuaeth WorldSkills UK yn Sioe Sgiliau y DU 2015.
Bellach, mae’n mynd i rownd derfynol EuroSkills yn Gothenburg ym mis Rhagfyr, ac mae’n un o ddau gystadleuwr o Gymru sy’n cynrychioli Tîm Prydain.
EuroSkills yw un o’r cystadlaethau sgiliau mwyaf yn Ewrop a’r nod yw gwella ansawdd a statws hyfforddiant galwedigaethol a’i wneud yn fwy deniadol.
Bydd pobl ifanc hyd at 25 oed o bob cwr o Ewrop yn cystadlu am y teitl Ewropeaidd ar gyfer sgiliau galwedigaethol.
Gall ymwelwyr a chystadleuwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau ymylol, gan gynnwys heriau rhoi cynnig ar sgilau, arddangosfeydd a seminarau.
Bydd oddeutu 450 o bobl ifanc hyd at 25 oed yno a bydd tua 30 o wledydd gwahanol yn cystadlu.
Dim ond deg cystadleuydd o Gymru sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer mynd i Abu Dhabi yn 2017 ac mae Ethan yn un ohonynt. Bydd yn cynrychioli'r DU yn rownd derfynol WorldSkills.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:
“Mae Electroimpact yn enghraifft glodwiw o gwmni sy’n meddwl ymlaen ac sy’n deall manteision rhaglenni prentisiaeth, ac mae Ethan yn brentis uwch ymroddedig a thalentog. Dymunaf y gorau iddo yn Gothenburg a thu hwnt.
“Gall prentisiaethau fynd i’r afael â phrinder sgiliau, darparu sgiliau er mwyn diwallu anghenion busnesau a helpu i ddatblygu sgiliau arbenigol sydd eu hangen er mwyn cadw’n gysonâ’r dechnoleg a’r arferion gwaith diweddaraf.”
Dywedodd Matthew Booth, Rheolwr y Siop Beiriannau a Hyfforddiant Prentisiaid yn Electroimpact:
“Rydw i’n falch iawn gyda’r modd y mae ein cwmni wedi elwa ar y cynllun prentisiaeth; mae ein prentisiaid yn unigolion gweithgar, talentog sy’n meddu ar hunan-gymhelliant, a gyda’i gilydd maent yn gwneud tîm perffaith.
“Mae Ethan wedi profi bod modd cyrraedd eich nodau a rhagori arnynt drwy weithio’n galed a thrwy fod yn ymroddedig i’ch gwaith. Rydw i’n falch iawn o’i lwyddiannau ac mae e nid yn unig yn esiampl glodwiw o’n prentisiaid ni yma ond hefyd o brentisiaid ledled y byd.”
Dywedodd Ethan Davies, Prentis Uwch yn Electroimpact:
“Rydw i’n gefnogwr brwd o gynlluniau prentisiaeth a’r modd y gall cwmni elwa arnynt. Hefyd, mae’r cynlluniau’n rhoi cyfle arbennig i bobl ifanc ddechrau ar yrfa y maent yn breuddwydio amdani.
“Mae cael cefnogaeth Julie James ar gyfer WorldSkills ac ar gyfer EuroSkills yn hwb arbennig imi. Gobeithio y bydda i’n mynd o nerth i nerth yno ac yn ennill medalau.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaeth ei chyllido gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth o’r Gronfa Gymdeithasol Ewrop.