Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, yn ymweld â Fietnam yr wythnos hon fel rhan o ddirprwyaeth Cymru Fyd-eang i gryfhau cysylltiadau addysg rhwng y ddwy wlad.
Sefydlwyd rhaglen Cymru Fyd-eang yn 2015 fel partneriaeth rhwng Prifysgolion Cymru, British Council Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Llywodraeth Cymru i ddatblygu cysylltiadau rhyngwladol a hyrwyddo prifysgolion Cymru mewn marchnadoedd tramor â blaenoriaeth, yn cynnwys Fietnam a’r Unol Daleithiau.<?xml:namespace prefix = "o" ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />
Yn ystod yr ymweliad â Hanoi, bydd yr Ysgrifennydd Addysg yn cyfarfod â Phwyllgor Diwylliant, Addysg ac Ieuenctid y Cynulliad Cenedlaethol ac adrannau eraill o Lywodraeth Fietnam i drafod prosiectau partneriaeth parhaus, newidiadau i’r cwricwlwm, a dulliau o ymdrin â materion cyfredol ym myd Addysg, yn cynnwys cydraddoldeb rhywiol ym maes addysgu.
Fel rhan o’r ymweliad, bydd yr Ysgrifennydd Addysg yn llofnodi llythyr o fwriad rhwng Gweinidog Addysg a Hyfforddiant Fietnam a Llywodraeth Cymru, sy’n galluogi’r ddwy wlad i rannu arferion gorau mewn dull system i system, a gwneud gwaith ymchwil sydd o fudd i’r ddwy wlad yng Nghymru ar ôl Brexit.
Meddai Kirsty Williams:
“Rwy’n falch bod y berthynas rhwng Cymru a Fietnam, ein llywodraethau, prifysgolion a myfyrwyr, yn mynd o nerth i nerth.
“Gallwn ddysgu cymaint gan Fietnam. Maen nhw wedi diwygio eu cwricwlwm a’u haddysgeg; yn debyg i’r broses ddiwygio rydym yn ei chyflawni yng Nghymru ar hyn o bryd. Rwy’n awyddus i ddysgu mwy am y rhwystrau y gwnaethon nhw eu hwynebu, a sut mae Fietnam yn datblygu ei gweithlu athrawon ac arweinwyr ysgolion.
“Yng Nghymru ar ôl Brexit, bydd rhyngwladoli addysg uwch yn cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu cysylltiadau diwylliannol a diplomataidd rhyngwladol, gan ein helpu i ymrwymo i greu Cymru Fyd-eang.
“Drwy lofnodi’r llythyr o fwriad, rydym wedi profi’n hymrwymiad i weithio gyda’r British Council a Gweinyddiaeth Addysg a Hyfforddiant Fietnam i fynd i’r afael â heriau’r dirwedd fyd-eang wrth ryngwladoli addysg uwch”.
Meddai’r Athro Iwan Davies, Cadeirydd Bwrdd Cymru Fyd-eang sy’n rhan o ddirprwyaeth Cymru:
“Rwy’n falch o fod yn rhan o’r ddirprwyaeth gyda Llywodraeth Cymru i gyfarfod darpar brifysgolion partner yn Fietnam.
“Mae datblygiad economaidd eithriadol Fietnam a’i hawch am ryngwladoli’n ei gwneud yn bartner cyffrous i Cymru Fyd-eang ac rwy’n falch ein bod ni’n datblygu’r berthynas ryngwladol allweddol hon mewn partneriaeth.
“Bydd croesawu myfyrwyr o Fietnam i brifysgolion Cymru, creu cyfleoedd i gydweithio ar ymchwil ryngwladol, a sicrhau partneriaethau gyda sefydliadau Fietnam o fudd i economi Cymru ac yn gwella’n henw da yn fyd-eang ac edrychaf ymlaen at drafodaethau cyffrous yr wythnos hon a fydd yn symud y berthynas yn ei blaen.”