Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg wedi ysgrifennu at bob ysgol yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o anffurfio organau cenhedlu benywod.
Mae’n anodd amcangyfrif nifer yr achosion o anffurfio organau cenhedlu benywod oherwydd bod natur y drosedd yn guddiedig. Er hynny, amcangyfrifir bod 137,000 o ferched a menywod yn cael eu heffeithio gan anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r Ysgrifennydd Addysg yn tynnu sylw at y rôl bwysig y gallai ysgolion ei chwarae yn adnabod dioddefwyr tebygol ac yn eu diogelu rhag anffurfio organau cenhedlu benywod. Mae’r canllaw statudol, Cadw dysgwyr yn ddiogel bellach ar gael i gefnogi ysgolion a gwasanaethau addysg. Mae’r canllaw’n sicrhau y cymerir camau priodol ac effeithiol pan fydd pryderon am les plant yn codi, gan ddefnyddio asiantaethau ymchwilio pan fo hynny’n briodol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynhyrchu ystod o ddeunyddiau a chanllawiau ar Hwb i roi cefnogaeth i ysgolion reoli materion amddiffyn plant.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Rwy wedi ysgrifennu at ysgolion i ofyn am eu cymorth er mwyn helpu i gael gwared ar y math yma o drais ffiaidd yn erbyn menywod a merched . Mae’n hollbwysig ein bod ni i gyd yn adnabod yr arwyddion sy’n rhybudd y gallai plentyn fod mewn perygl.
“Mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn ffurf o gam-drin plant ac yn drosedd. Ni ellir ei gyfiawnhau fel arfer diwylliannol na chrefyddol ac mae arweinwyr y prif grefyddau wedi ei gondemnio.
“Rhaid i staff ysgolion a cholegau chwarae rôl hollbwysig yn diogelu pobl ifanc rhag camdriniaeth. Mae’n hanfodol, felly, eu bod yn ymwybodol iawn o arwyddion anffurfio organau cenhedlu benywod a pha gamau y dylid eu cymryd os oes ganddyn nhw bryderon.
“Dylai staff fod yn ymwybodol hefyd y gellid mynd â merched ifanc dramor yn ystod gwyliau’r haf er mwyn anffurfio organau cenhedlu benywod, gan y gall y triniaethau gymryd hyd at bedair wythnos i wella. Felly, gallai’r driniaeth gael ei chynnal cyn i’r ferch ddychwelyd i’r ysgol ar ddechrau tymor yr hydref. Mae’n bwysig iawn bod staff yn wyliadwrus wrth edrych am arwydd o anffurfio organau cenhedlu benywod ar ôl gwyliau’r ysgol ac i adrodd ar unrhyw beth a all fod yn amheus i’r gweithiwr proffesiynol perthnasol.
“Rwy am i ni i gyd fod yn fwy effro i’r cam-drin annerbyniol hwn, fel y gallwn ni roi stop ar anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru.”