Heddiw agorodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams Ysgol Panteg, Pont-y-pŵl ar ei newydd wedd.
Adeiladwyd y safle newydd o ganlyniad i fuddsoddi £20.5 miliwn mewn tair ysgol yn yr ardal. Cyfrannodd Llywodraeth Cymru £10.25 miliwn o'r cyllid o dan ein Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yw'r buddsoddiad mwyaf mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru er y 1960au, a bydd dros £1.4 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn ystod y 5 mlynedd hyd at 2019.
Dywedodd Kirsty Williams,
"Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu'r amgylcheddau dysgu gorau i'n dysgwyr, a rhai a fydd yn eu hysbrydoli. O'r hyn dw i wedi'i weld heddiw, dw i'n meddwl bod eich ysgol fendigedig yn enghraifft berffaith o hyn.
"Mae'r hyn rydyn ni'n gallu ei gyflawni mewn partneriaeth â llywodraeth leol a'n hysgolion yn wych, o ran dod ag adnoddau at ei gilydd i ddarparu cyfleusterau newydd pwrpasol i'n cymunedau.
"Mae ysgolion fel hyn hefyd yn hollbwysig o ran cyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ganolog i ddysgu'r iaith yn llwyddiannus ac mae'n gam tuag at greu siaradwyr Cymraeg hyderus."
Agorodd Ysgol Panteg ym mis Medi 2010 â 36 o blant - plannodd pob un ohonynt fwlb cennin Pedr ar y diwrnod cyntaf hwnnw a dyna pam mae 36 o gennin Pedr yn amgylchynu bathodyn yr ysgol ar arwydd yr ysgol.
Roedd yr adeiladau gwreiddiol yn cael eu rhannu gydag Ysgol Fabanod Griffithstown. Yn ddiweddarach, unodd yr ysgol fabanod ag Ysgol Iau Griffithstown i ffurfio ysgol gynradd ar y safle.
Erbyn 2014 roedd angen mwy o le ar y ddwy ysgol a dechreuodd y gwaith ar y safle newydd ym mis Ionawr 2016. Mae meithrinfa a lle i 420 o blant oedran cynradd yn yr ysgol newydd ac agorodd i ddisgyblion am y tro cyntaf ym mis Chwefror eleni.
Achubodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y cyfle hefyd i longyfarch ac i ddiolch i bawb a oedd ynghlwm â chodi'r ysgol newydd, gan gynnwys y rheolwyr prosiect, y timau cynllunio ac adeiladu, Cyngor Torfaen, Wilmott Dixon Construction, Powell Dobson Architects a'r ysgol ei hun.