Rhoddwyd croeso cynnes i'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wrth iddi agor yr ysgol gynradd newydd gwerth £8 miliwn ym Mhontprennau yng Nghaerdydd yn swyddogol heddiw (Dydd Iau 8 Medi).
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £4.128 miliwn drwy'r Rhaglen ar gyfer Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif tuag at gost yr adeiladau newydd a ddaeth i gyfanswm o £8.256 miliwn.
Mae Ysgol Gynradd Pontprennau yn cynnwys canolfan gymunedol, sydd wedi cael ei hadnewyddu a'i haddasu er mwyn iddi gael ei defnyddio o fewn yr ysgol, y cyntaf o'i math yng Nghaerdydd.
Agorodd lefel is yr ysgol ym mis Medi 2015 i dderbyn disgyblion meithrin a dosbarthiadau derbyn, a disgwylir y bydd yr ysgol yn tyfu o'r naill flwyddyn i'r llall, tan y bydd yn llawn gyda 420 o ddisgyblion, yn ogystal â 48 o ddisgyblion meithrin amser llawn, erbyn 2021.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Rwy'n falch iawn o gael agor yr ysgol newydd hon yn swyddogol, lle y bydd y cyfleusterau newydd gwych hyn sydd wedi costio £8 miliwn yn helpu i fodloni'r galw am leoedd ysgol yn y gymuned. Erbyn hyn, gall disgyblion a staff fanteisio ar y ffaith bod y ganolfan gymunedol bresennol yn rhan o'r ysgol, sy'n golygu y gallan nhw a'r gymuned ehangach ddefnyddio ac elwa o'r cyfleusterau hyn.”
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £82 miliwn o gyllid newydd i Gyngor Caerdydd ar gyfer ei raglen gwerth £164.1 miliwn i wella adeiladau ysgolion.