Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg, wedi llongyfarch disgyblion sydd wedi cael eu canlyniadau ar ôl sefyll arholiadau TGAU Mathemateg newydd a luniwyd yn benodol ar gyfer Cymru.
Mae'r cymwysterau newydd yn rhan o ddiwygiadau pwysig i'r system addysg yng Nghymru i godi safonau drwy ganolbwyntio mwy ar lythrennedd a rhifedd.
Cafodd dau TGAU newydd, sef Mathemateg a Mathemateg Rhifedd, eu cyflwyno i'w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2015. Y canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw oedd canlyniadau'r disgyblion hynny a wnaeth sefyll yr arholiadau ym mis Tachwedd y llynedd.
Dywedodd Kirsty Williams:
"Rwyf am longyfarch y disgyblion sydd wedi cael canlyniadau'r arholiadau TGAU newydd hyn mewn Mathemateg a Mathemateg Rhifedd, a luniwyd yn benodol ar gyfer Cymru.
"Mae'r cymwysterau newydd hyn yn rhan o ddiwygiadau helaeth i'n system addysg sy’n rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth gywir i’n pobl ifanc fel y gallant ffynnu yn y byd modern.
"Mae hyn yn ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol o godi safonau a sicrhau bod pawb yn cael cyfle i lwyddo."
Mae'r canlyniadau'n dangos:
- TGAU Mathemateg - y gyfran sy’n cyflawni A* i C yw 46.1%
- TGAU Mathemateg Rhifedd - y gyfran sy’n cyflawni A* i C yw 46.1%