Mae hyn yn parhau â pholisi presennol Llywodraeth Cymru ac yn golygu y bydd myfyrwyr yn gymwys i dderbyn cymorth hyd nes y byddant yn cwblhau eu cwrs.
O ganlyniad i’r cyhoeddiad, bydd myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd sy’n bwriadu astudio yng Nghymru ym mlwyddyn academaidd 2019/20 yn gymwys i dalu’r un ffioedd dysgu â myfyrwyr o Gymru a byddant yn gymwys i dderbyn benthyciadau a/neu grantiau gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Mae hyn yn parhau â pholisi presennol Llywodraeth Cymru ac yn golygu y bydd myfyrwyr yn gymwys i dderbyn cymorth hyd nes y byddant yn cwblhau eu cwrs.
Dylai myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd ymgynghori â swyddog cyllid myfyrwyr eu prifysgol neu wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Mae’n dda gen i gadarnhau heddiw y bydd hawl myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd i gael cymorth i fyfyrwyr ym mlwyddyn academaidd 19/20 yn parhau.
“Mae hyn yn holl bwysig os ydym i barhau i ddenu myfyrwyr o bob rhan o’r byd i astudio a gwneud gwaith ymchwil yn ein prifysgolion.
“Bydd hyn yn rhoi rhywfaint o eglurder fydd yn cael ei groesawu gan ein prifysgolion a’n colegau ynghylch cyllid at y dyfodol. Bydd hefyd yn rhoi sicrwydd i ddarpar fyfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd na fydd unrhyw amharu ar eu cyllid wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae ein prifysgolion yn ganolog i’n dyfodol cymdeithasol ac economaidd ac yn gweld pwysigrwydd eu cyswllt ag Ewrop ac yn dathlu’r cysylltiadau hynny. Maent hefyd yn ffynnu o ganlyniad i’r amrywiaeth o bobl sy’n dod i’r prifysgolion hynny.
“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn rhoi neges glir iawn, sef bod Cymru’n parhau’n lle cyfeillgar, goddefgar i astudio â’i bryd ar edrych y tu hwnt i’w ffiniau. Mae’r myfyrwyr hynny sy’n dod o’r Undeb Ewropeaidd a thu hwnt yn hynod werthfawr yn ein golwg ni ac edrychwn ymlaen at groesawu mwy eto i’n sefydliadau byd-eang eu safon.”