Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £3.5 miliwn mewn rhaglen fydd yn cael ei chynnal gan brifysgolion Cymru i ysgogi partneriaethau cenedlaethol a hybu Cymru fel lle i ddod i astudio ar ôl Brexit.
Mae’r cyllid newydd ar gyfer Cymru Fyd-Eang, sef partneriaeth rhwng Prifysgolion Cymru, British Council Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae’r cymorth yn cael ei roi drwy Gronfa Trawsnewid Undeb Ewropeaidd Llywodraeth Cymru sy’n cyfateb i swm o £50 miliwn. Ei ddiben yw helpu busnesau, gwasanaethau cyhoeddus ac eraill i baratoi ar gyfer effeithiau Brexit.
Mae Cymru Fyd-Eang, a gafodd ei sefydlu yn 2015, yn hybu prifysgolion Cymru mewn marchnadoedd tramor sydd â blaenoriaeth: Fietnam a’r Unol Daleithiau. Bydd y cyllid hwn yn cael ei gynyddu’n sylweddol o ran cwmpas a maint y rhaglen er mwyn cyflwyno brand Astudio yng Nghymru ar draws y byd, datblygu gweithgareddau sydd eisoes ar waith yn yr Unol Daleithiau a Fietnam ac ymestyn i farchnadoedd eraill. Y nod yw gwella allforion addysg a hybu proffil Cymru fel economi gwybodaeth sy’n edrych tuag allan.
Mae Fietnam a’r Unol Daleithiau wedi’u dynodi’n farchnadoedd sy’n cynyddu o ran eu pwysigrwydd ar gyfer Cymru ar ôl Brexit. Bydd y cyllid yn adlewyrchu hyn ac yn cefnogi rhaglen ysgoloriaeth ar gyfer Cymru-Fietnam, gan nodi’r meysydd lle gellir gwneud gwaith ymchwil ar y cyd a hyrwyddo Cymru fel cyrchfan wahanol i astudio ar gyfer Fietnam, yr Unol Daleithiau a marchnadoedd allweddol eraill, gan gynnwys Ewrop.
Mae cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Addysg yn cyd-fynd ag ymweliad gan Lysgennad Vietnam i’r Deyrnas Unedig, Ei Ardderchogrwydd Tran Ngoc An, pryd y bydd trafodaethau yn cael eu cynnal i gryfhau’r cysylltiadau addysgol rhwng y ddwy wlad.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Mae’n dda iawn gen i gyhoeddi bod yr arian yma ar gael ar gyfer Cymru Fyd-Eang er mwyn cryfhau’r cysylltiadau sy’n cael eu creu gyda Fietnam a’r Unol Daleithiau.
“Yn dilyn Brexit, mae angen i ni wneud yn siŵr fod ein sector Addysg Uwch yn parhau i ymestyn allan i farchnadoedd newydd a rhai sy’n datblygu.
“Mae gan ein prifysgolion gymaint i’w gynnig felly mae angen i ni sicrhau ein bod yn edrych y tu hwnt i’n cylch arferol er mwyn manteisio ar y galw cynyddol am addysg uwch ar draws y byd.
“Pleser o’r mwyaf yw cael croesawu Ei Ardderchogrwydd Tran Ngoc An i Gymru a gobeithiaf y bydd y cyhoeddiad hwn yn ddechreuad ar bartneriaeth hynod gynhyrchiol rhwng y ddwy wlad.”
Dywedodd y Llysgennad, Tran Ngoc An:
“Fel Llysgennad Fietnam yn y Deyrnas Unedig, rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd cronfa’n cael ei sefydlu i hyrwyddo cydweithredu rhwng Cymru a Fietnam ym maes addysg. Rwy’n hyderus y bydd hyn, gydag ewyllys ac ymdrech wleidyddol, yn datblygu ymhellach ein cydweithredu ym mes addysg.
“Mae ein Gweinidog Addysg a Hyfforddiant yn edrych ymlaen yn arw at groesawu Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, i Fietnam i osod y seiliau ar gyfer ein hymdrechion ar y cyd ym maes addysg.”
Dywedodd yr Athro Iwan Davies, Cadeirydd Bwrdd Cymru Fyd-Eang:
“Mae’n dda gen i weld bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y buddsoddiad sylweddol newydd yma yng ngwaith Cymru Fyd-Eang. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos hyder yn ein prifysgolion sydd o’r radd flaenaf yn y byd ac mae hynny’n bwysig. Mae ganddynt hefyd rôl bwysig i’w chwarae, ynghyd â phartneriaid Cymru Fyd-Eang, yn helpu i roi economi Cymru ar sail gadarn.
“Mae myfyrwyr tramor, rhaglenni ymchwil rhyngwladol cydweithredol a phartneriaethau â sefydliadau ar draws y byd oll yn helpu i adeiladu’r ymddiriedaeth a’r ewyllys da sydd i Gymru ar draws y byd. Mae gan hyn, yn ei dro, y potensial i gael effaith fawr a fydd yn trawsnewid economi Cymru. Yng nghyd-destun ansicrwydd Brexit, bydd y buddsoddiad newydd hwn yng Nghymru Fyd-Eang yn cryfhau’r cyfraniad pwysig sydd gan addysg uwch i’w chwarae yng nghysylltiadau ac enw da Cymru yn rhyngwladol am flynyddoedd i ddod.”