Bydd hyd yn oed mwy o ddisgyblion yn gallu elwa ar wisg ysgol a chit a chyfarpar newydd ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau eraill o ganlyniad i hwb o £3.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Yn dilyn y Gyllideb Ddrafft a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, mae’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wedi cyhoeddi y bydd y cyllid ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad yn cael ei ddyblu o £1.7 miliwn yn 2018-19 i £3.5 miliwn yn 2019-20.
Mae cronfa’r Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad yn cynnig i rieni hyd at £125 a gall gael ei ddefnyddio hefyd i dalu am gyfarpar ar gyfer gweithgareddau o fewn y cwricwlwm, megis dylunio a thechnoleg.
Gall rhieni gael arian hefyd ar gyfer cyfarpar ar gyfer teithiau y tu allan i oriau arferol yr ysgol gan gynnwys gweithgareddau dysgu yn yr awyr agored.
Gall plant sy’n derbyn gofal a dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim dderbyn arian os ydynt yn dechrau mewn dosbarth derbyn mewn ysgol gynradd, os ydynt yn dechrau ym mlwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd neu os ydynt yn 4 neu 11 oed mewn ysgolion arbennig, mewn lleoliadau adnoddau anghenion arbennig neu mewn unedau cyfeirio disgyblion.
Mae’r swm ychwanegol o £3.5 miliwn ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad yn golygu mai cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion am 2019-20 yw £97 miliwn.
Mae’r Grant Datblygu Disgyblion sydd wedi’i ddisgrifio’n “werthfawr” gan ysgolion, yn rhoi mwy o gymorth i ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a Phlant sy’n Derbyn Gofal. Ei fwriad yw goresgyn rhwystrau ychwanegol sy’n rhwystro dysgwyr o gefndiroedd dan anfantais rhag cyflawni eu potensial llawn.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Mae torri cylch anfantais a thlodi yn hanfodol i les a llwyddiant hirdymor ein plant ac mae’n ganolog i’n Cenhadaeth Genedlaethol ar gyfer Addysg.
“Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos hon, mae’r bwlch mewn cyrhaeddiad yng Nghyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 rhwng disgyblion o gefndiroedd o dan anfantais a’u cyfoedion gyda’r lleiaf a welwyd yn y deng mlynedd diwethaf.
“Dylai hyn gael ei groesawu ond mae’n rhaid i ni yn awr sicrhau ein bod yn dod o hyd i ffyrdd newydd o oresgyn rhwystrau i ddysgu.
“Dyma pam rydyn ni wedi dyblu’r cymorth ariannol i ddysgwyr yn y Cyfnod Sylfaen ac wedi ymestyn y Grant Datblygu Disgyblion i gynnwys dysgwyr yn y blynyddoedd cynnar, dysgwyr mewn unedau cyfeirio disgyblion a’r dysgwyr sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol.
“Gyda’r arian ychwanegol rydyn ni’n ei fuddsoddi yn y Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad, bydd hyd yn oed mwy o ddisgyblion yn gallu manteisio ar gyfleoedd, boed yn yr ysgol neu’r tu allan. Rwy’n annog rhieni i fanteisio ar hyn i’r eithaf ac i ddal ati i wneud cais i’w cyngor lleol am arian.”
Bydd dod o hyd i ffyrdd newydd o helpu rhieni â chost gwisg ysgol yn un o’r materion a fydd yn destun ymgynghoriad i’w gyhoeddi yn hwyrach y mis yma.