Mae JoJo Maman Bébé, manwerthwr nwyddau plant o Gymru wedi ymrwymo i fuddsoddi yn sgiliau ei weithwyr hyn drwy gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru
Yng Nghasnewydd y mae pencadlys JoJo, manwerthwr aml-gyfrwng sy’n gwerthu dillad mamolaeth a dillad plant yn ogystal ag anrhegion a theganau. O’r 800 a mwy o weithwyr cyflogedig JoJo, mae 117 ohonyn nhw dros eu 50 oed, ac mae 32 ohonyn nhw dros eu 60 oed. Maen nhw’n gweithio ymhob agwedd ar y busnes, o swyddi yn y pencadlys a swyddi rheoli i fanwerthu, ac mae’r cwmni’n cefnogi dulliau gweithio hyblyg a rhan-amser er mwyn darparu ar gyfer ei weithwyr cyflogedig hyn.
Mae data newydd yn dangos bod nifer y gweithwyr yng Nghymru sydd dros 50 oed wedi cynyddu bron i chwarter - 24.8% - rhwng 2006 a 2016, tra bod nifer y gweithwyr iau wedi gostwng – rhai 16 a 24 10.1%, ac unigolion rhwng 25 a 49 3% - dros yr un cyfnod. Erbyn 2022, bydd un o bob tri o bobl o oedran gweithio dros eu hanner cant. Felly, mae’n bwysicach nag erioed buddsoddi mewn sgiliau gydol oes gweithio gweithwyr cyflogedig.
Mae Christine Presley, 63, wedi bod yn gweithio yn JoJo am 15 mlynedd. Yn wreiddiol o Ogledd Llundain, mae Christine wedi cael swyddi amrywiol yn y maes cyfrifyddu a gwasanaeth cwsmeriaid cyn ymuno â JoJo yn 2002. Drwy weithio yn adran Adnoddau Dynol y cwmni, gall Christine ddefnyddio sgiliau a phrofiad yn ei swydd bresennol.
Meddai Christine:
“Ar ôl gadael y byd addysg, gweithiais mewn swyddi amrywiol yn y maes cyfrifyddu yn Llundain a De Cymru. Ym 1994, pan oeddwn yn fy 40au, roeddwn awydd newid a derbyniais fy swydd gyntaf yn y maes gwasanaethau cwsmeriaid gyda One 2 One (T-Mobile erbyn hyn) lle bûm yn gweithio am wyth mlynedd.
“Ar ôl i’r meibion dyfu i fyny, penderfynais i a’r gwr symud i Gymru i fod yn agosach at y teulu. Yn 2002, aethon ni ati i brynu ty yng Nghwmbrân ac roedd fy mlynyddoedd o brofiad yn y maes gwasanaeth cwsmeriaid o gymorth gyda’m cais ar gyfer y swydd yn JoJo. Yn ystod fy 15 mlynedd yn y swydd, rydw i wedi gweld y cwmni’n tyfu o fod yn un siop i fod ag 80 a mwy o siopau ac rydw i wedi symud o’r adran gwasanaethau cwsmeriaid i’r adran adnoddau dynol.
“Rydw i’n defnyddio’r profiad a gefais mewn swyddi blaenorol ar gyfer fy rôl yn JoJo, ond credaf mai’r sgíl pwysicaf i’w chael yn yr Adran Adnoddau Dynol yw’r gallu i wrando, sy’n rhywbeth a ddysgais yn bennaf o fy swyddi yn y maes gwasanaeth cwsmeriaid. Yn fy marn i, mae bod ychydig yn hyn yn helpu gyda hynny hefyd, rydw i’n fwy amyneddgar nawr nag oeddwn i pan o’n i’n iau. Weithiau rydw i’n ystyried cwtogi fy oriau ac efallai y byddaf yn gwneud hynny dros y ddwy flynedd nesaf. Diolch i bolisi gweithio hyblyg JoJo, bydd yn hawdd i mi gwtogi fy oriau ar adeg o’m dewis fy hun. Ond does gen i ddim cynlluniau ar hyn o bryd i roi’r gorau i’m swydd yn llwyr.”
Mae ymgyrch ‘Nid Oes Gan Unrhyw Un Ddyddiad Ar ei Orau Cyn’ yn tynnu sylw at gyfraniad hollbwysig gweithwyr hyn i fusnesau. Dyma fenter ddiweddaraf Oes o Fuddsoddi Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan Gymru’r sgiliau angenrheidiol i gystadlu yn y farchnad fyd eang, heddiw ac yfory.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â Busnes yn y Gymuned (BiTC) Cymru, Sefydliad Dysgu a Gwaith, Comisiynydd Pobl Hyn Cymru, Chwarae Teg a Ffederasiwn Busnesau Bach ar gyfer yr ymgyrch, sydd â’r nod o herio stereoteipiau am weithwyr hyn a dangos eu gwerth yn y gweithle.
Meddai Amy Bailey, Rheolwr Adnoddau Dynol JoJo Maman Bébé:
“Mae gennym nifer fawr o weithwyr cyflogedig sydd dros 50 oed. Maen nhw’n gweithio ar bob agwedd o’r busnes ac ar bob lefel, o swyddi manwerthu rhan-amser i swyddi rheoli a swyddi yn y pencadlys ac maen nhw’n hanfodol i sicrhau bod y cwmni’n gweithredu’n rhwydd. Rydyn ni bob amser yn agored i gynnig oriau hyblyg a rhan-amser, ac mae ein gweithwyr cyflogedig yn gweithio unrhyw beth o chwe awr yr wythnos i weithio’n llawn-amser, ac rydyn ni wedi sylwi ar duedd ymhlith gweithwyr cyflogedig fel Christine i ddewis hyn yn hytrach nag ymddeol.
“Yn sicr, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl hyn rydyn ni’n eu cyflogi - yn 2016 fe wnaethon ni gyflogi 16 o weithwyr dros eu 50 oed ac eleni cyflogwyd 21 yn rhagor. Wrth recriwtio ar gyfer swydd, rydyn ni’n chwilio am y person gorau ar gyfer y swydd honno, ac mae sgiliau a phrofiad gweithwyr hyn yn werthfawr iawn i ni ym mhob maes o’r busnes.”
Wrth sôn am yr ymgyrch a pham ei bod hi’n bwysicach nag erioed i fusnesau gefnogi a gwerthfawrogi gweithwyr hyn, meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:
“Erbyn 2022, bydd tua un o bob tri o bobl o oedran gweithio yng Nghymru dros eu hanner cant ac efallai na fydd nifer y bobl ifanc sy’n ymuno â’r farchnad lafur yn ddigon i lenwi’r holl swyddi gweigion hynny.
“Dyw hi ddim bob amser yn hawdd llenwi’r sgiliau a’r profiad gwerthfawr sydd gan weithwyr hyn, yn dilyn oes o weithio. Nod yr ymgyrch hon yw tynnu sylw’r holl fusnesau yng Nghymru, yn enwedig busnesau bach a chanolig lle gall bylchau sgiliau gael mwy o effaith, at y ffaith bod gweithwyr hyn yn hanfodol i dwf a llwyddiant busnesau, ac i economi’n gwlad yn gyffredinol.
“Gobeithio bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o’r mater i gyflogwyr yng Nghymru, a chynnig cyngor a chanllawiau ar sut allan nhw gefnogi gweithlu o bob oed a buddsoddi yn nhwf a datblygiad eu gweithwyr cyflogedig drwy gydol eu hoes gwaith.”
Os ydych chi’n gyflogwr, ac angen rhagor o wybodaeth ar sut i fuddsoddi yn sgiliau gweithwyr hyn, mae Porth Sgiliau i Fusnes Cymru (dolen allanol) Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyngor a chanllawiau amrywiol.