Cyn cyfarfod Gweinidogion y Deyrnas Unedig am Brexit, aeth Rebecca Evans i ymweld â Phrifysgol Caerdydd i drafod pwysigrwydd parhau i gydweithio â’r Undeb Ewropeaidd o ran ymchwil ac arloesi i Gymru.
Fe wnaeth y Gweinidog Tai ac Adfywio Rebecca Evans, sef Gweinidog Arweiniol Llywodraeth Cymru ar y Fforwm Gweinidogol ar drafodaethau’r Undeb Ewropeaidd, gyfarfod â’r Athro Colin Riordan sy’n aelod o Grŵp Cynghorol Llywodraeth Cymru ar Ewrop ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd a Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Mentergarwch, yr Athro Kim Graham.
Dywedodd Rebecca Evans:
“Rydyn ni wedi clywed gan yr Athro Riordan a’r Athro Graham pa mor bwysig yw cydweithio gyda phrifysgolion sy’n bartneriaid a pha mor hanfodol yw hi bod y Deyrnas Unedig yn parhau i gymryd rhan yn rhaglenni Erasmus+ a Horizon.
“Rydyn ninnau o’r un farn a dyna’r rheswm rydyn ni wedi lobïo Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyson ynghylch pwysigrwydd parhau i wneud hynny. Ers 2014 mae Cymru wedi derbyn dros €40 miliwn gan Erasmus+ gan gefnogi dros 200 o brosiectau mewn nifer o sectorau gwahanol. Yn ogystal â hynny, mae Cymru wedi cael mwy na €98 miliwn drwy raglen Horizon 2020.
“Er bod y buddsoddiad yn bwysig o ran dangos gwerth cymryd rhan, mae hyd yn oed yn fwy gwerthfawr o ran codi safon ymchwil ac arloesi ac estyn cyfraniad Cymru ar draws y byd.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Kirsty Williams sydd hefyd yn rhan o gyfarfod Brexit:
“Byddai peidio â dod i gytundeb ar ôl Brexit yn hynod o niweidiol i’n sector addysg uwch. Byddai nid yn unig yn amddifadu ein myfyrwyr a’n sefydliadau o’r cyfle i fanteisio ar gyfleoedd hanfodol ond hefyd yn niweidiol i’r cysylltiadau academaidd hynny mae prifysgolion a Chymru wedi gweithio mor galed i’w sefydlu dros y 31 mlynedd diwethaf.
“Rydyn ni am i Gymru barhau i fod yn wlad sy’n edrych tuag allan i bedwar ban byd ond allwch chi ddim â gwneud hyn ar eich pen eich hun. Dyna pam mae rhaglen fel Erasmus+ mor fuddiol am ei bod yn golygu y gall staff, disgyblion a myfyrwyr ddysgu o’r hyn mae eu cyfoedion yn ei wneud ledled Ewrop a dod â’r wybodaeth, yr arbenigedd a’r agweddau rhyngwladol hynny yn ôl gyda nhw pan fyddant yn dychwelyd. Mae’r manteision hyn i’w profi ar draws ein hysgolion, ein sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch, darparwyr hyfforddiant, addysg i oedolion a sefydliadau ieuenctid.
“Rydyn ni hefyd wedi codi dro ar ôl tro, a hynny’n gadarn, yr angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig rannu gwybodaeth a chynlluniau gweithredol gyda ni wrth i ni weithio gyda’n sefydliadau ar gynllunio am y dyfodol ar ôl Brexit.”