Y bydd myfyrwyr o'r UE sy'n gwneud cais am le ym mhrifysgolion Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19 yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Bydd gwladolion o’r UE sydd eisoes yn cael benthyciadau gan Gyllid Myfyrwyr Cymru a gwladolion o'r UE sy'n bwriadu dechrau astudio ym mlwyddyn academaidd 2018/19 yn gymwys i gael cymorth ar ffurf benthyciadau a grantiau.
Dylai myfyrwyr o'r UE ymgynghori â swyddfa cyllid myfyrwyr eu prifysgol, neu wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
Dywedodd Kirsty Williams,
"Mae gan Gymru sector addysg uwch sy'n adnabyddus ar draws y byd, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddenu myfyrwyr disglair o bedwar ban byd i astudio ac ymchwilio yn ein prifysgolion.
"Mae’r penderfyniad hwn yn rhoi sicrwydd i’n prifysgolion a’n colegau ynghylch cyllid yn y dyfodol, ac mae hefyd yn rhoi sicrwydd i ddarpar-fyfyrwyr yr UE na fydd telerau eu cyllid yn newid os bydd y DU yn gadael yr UE yn ystod eu hastudiaethau.
"Mae ein prifysgolion yn ganolog i’n dyfodol – a hynny’n gymdeithasol ac yn economaidd. Mae cysylltiadau ein Prifysgolion ag Ewrop yn rhywbeth y dylem ei ddathlu, ac mae’r amrywiaeth o bobl sy’n dod iddyn nhw yn cyfrannu at eu llwyddiant.
"Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o warchod enw da Cymru fel lle cyfeillgar a goddefgar i astudio a gwneud ymchwil o safon fyd-eang. Beth bynnag yw goblygiadau hirdymor y bleidlais yn y refferendwm, rydyn ni’n parhau i fod yn genedl groesawgar sy’n edrych tuag allan. Rydyn ni’n benderfynol o rannu gwybodaeth ar draws ffiniau cenedlaethol."