David Hanson AS i arwain adolygiad o addysg mewn carchardai yng Nghymru
Bydd Mr Hanson, sydd â phrofiad helaeth o ran y system cyfiawnder troseddol yn rhinwedd ei swydd fel cyn-Weinidog Gwladol dros Garchardai, yn edrych ar yr hyn sy'n gweithio'n dda ac yn nodi'r hyn sydd angen ei wella. Bydd yn ystyried anghenion tri grŵp penodol - pobl ifanc, benywod a dynion - ac yn edrych ar yr hyn sy'n rhwystro cyflenwi cyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogadwyedd yn effeithiol. Bydd yn cynnal yr adolygiad dros yr haf ac yn adrodd yn ôl i'r Gweinidog erbyn diwedd mis Tachwedd 2018.
Mae addysg, hyfforddiant a llyfrgelloedd mewn carchardai yng Nghymru yn fater datganoledig ers 2009. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cyllido hyn drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi a chyda chyllid a ddarperir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig at y diben hwnnw.
Dywedodd y Gweinidog:
“Rwy'n ddiolchgar i David am gytuno i gynnal yr adolygiad hwn i addysg yng ngharchardai Cymru. Mae ganddo stôr o brofiad a gwybodaeth diolch i'r amser a dreuliodd fel Gweinidog Gwladol dros Garchardai, Profiannaeth a Chyfiawnder Ieuenctid.
“Rydym yn gwybod pa mor allweddol yw cael addysg wych mewn carchardai os ydym am leihau aildroseddu. Y gred yw bod rhoi hwb i sgiliau a gwaith yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o fynd i'r afael â throseddu, drwy dorri'r cylch dieflig o anghydraddoldeb a bod o dan anfantais, sy'n stori gyffredin ymysg y rhan fwyaf o droseddwyr. Rydym yn gwybod hefyd, ar hyn o bryd nad yw'r addysg mewn carchardai yng Nghymru cystal ag y dymunwn iddi fod.
“Mae adolygiad David, felly, yn gam cyntaf pwysig tuag at wneud y gwelliannau sydd eu hangen i adsefydlu carcharorion a rhoi'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnynt i ddod yn aelodau o'r gymuned sy'n weithgar yn economaidd ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.”
Dywedodd Mr Hanson:
“Rwy'n falch o gael cynnal yr adolygiad hwn o addysg mewn carchardai ar gyfer Llywodraeth Cymru. Gobeithio y gallaf ddefnyddio fy mhrofiad fel Gweinidog Gwladol dros Garchardai i sicrhau y bydd y gwerthusiad hwn yn arwain at lunio adroddiad a fydd yn clustnodi'r prif feysydd sydd i'w diwygio ac yn dangos y prif gyfleoedd.
“Mae'n hanfodol bwysig bod gennym system cyfiawnder troseddol sy'n adsefydlu troseddwyr. Wrth greu system garchardai sy'n ail hyfforddi ac yn rhoi addysg i droseddwyr, rydym yn creu aelodau newydd i'r gymdeithas sy'n gallu gwneud cyfraniad a thalu eu ffordd. Ymchwiliad a fydd yn cael ei arwain gan dystiolaeth fydd yr ymchwiliad hwn. Rwy'n gobeithio y gallwn ychwanegu at lwyddiannau'r gorffennol, cael gwared ar y methiannau presennol, a chroesawu'r cyfleoedd a ddaw yn y dyfodol â breichiau agored. O wneud hynny, bydd y Deyrnas Unedig gyfan yn genfigennus o'r system garchardai yng Nghymru.”